Yn ystod ei ymweliad Gweinidogol cyntaf â Brwsel, dywedodd y Dirprwy Weinidog newydd sy'n gyfrifol am raglenni'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru wrth y Comisiynydd dros Bolisi Rhanbarthol bod yn rhaid cael arian yr UE i greu economi gadarn a ffyniannus i Gymru.
Bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn cwrdd â swyddogion y Comisiwn i bledio achos ffermwyr Cymru a cheisio sicrhau cymorth parhaus ar gyfer yr economi wledig drwy'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.
Wrth siarad cyn y cyfarfodydd dywedodd Mr Davies:
"Mae'r Cronfeydd Strwythurol a'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn hynod bwysig i Gymru gan gefnogi cymunedau ar draws cymunedau trefol a gwledig fel ei gilydd. Oherwydd hynny, dwi ym Mrwsel i godi llais dros Gymru o'r cychwyn cyntaf.
"Rydyn ni'n gryf o blaid Strategaeth Ewrop 2020 ar gyfer twf call, cynaliadwy a chynhwysol, ac mae datganoli'n golygu ein bod yn gallu integreiddio amcanion Ewropeaidd cyffredin yn ein polisïau ar gyfer Cymru. Gan ddefnyddio'r adnoddau gan Frwsel, fe allwn ni ddiwallu anghenion a mynd i'r afael â chyfleoedd penodol y wlad a defnyddio'r arian lle bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf."
Yn ystod ei amser ym Mrwsel bydd y Dirprwy Weinidog yn cwrdd ag uwch swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd ac ASEau o Gymru. Roedd hefyd yn bresennol yng Ngwobrau RegioStars 2011 lle enillodd Cymru wobr bwysig ar gyfer y prosiect Twf mewn Gwyddorau Amgylcheddol Morol (GEMS). Gwobrwywyd y prosiect hwn, a arweinir gan Grŵp Gwyddoniaeth Forol Bridge, am ei gyfraniad at gefnogi'r economi ranbarthol a rhoi hwb i dwf busnesau'r sector.
Mae dros 80 y cant o'r cymorth sydd ar gael gan Gronfeydd Strwythurol yr UE dros gyfnod y rhaglenni cyfredol wedi'i fuddsoddi gan olygu bod dros £3.1 biliwn wedi'i fuddsoddi yng Nghymru. Hyd yma, mae'r cronfeydd wedi helpu dros 198,000 o bobl ac mae bron i 61,000 ohonyn nhw wedi cael cymorth i ennill cymwysterau a bron i 24,000 wedi cael cymorth i gael swydd. Hefyd mae tua 7,000 o swyddi (gros) a bron i 1,700 o fentrau wedi'u creu.











