Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

O Frwsel i’r Bae – pobl ifanc yn dadlau am bynciau llosg Ewrop

Heddiw, bydd myfyrwyr o Gymru ben baladr yn ymuno â phobl ifanc o Gatalonia i ddadlau ynghylch pynciau llosg Ewrop, wrth i Fae Caerdydd groesawu ffug-gyfarfod Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (UE).
Dydd Iau 24 Medi 2009

Bydd Siambr Hywel yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd lle Cyngor y Gweinidogion ym Mrwsel; yno, bydd y myfyrwyr yn trafod a ddylai holl aelod-wladwriaethau’r UE fabwysiadu’r Ewro erbyn 2015 ac a ddylid cynnal refferenda i bennu newidiadau cyfansoddiadol a sefydliadol yr UE.

Dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, bydd pob un o’r 27 ysgol sy’n cymryd rhan yn cynrychioli un o Aelod-wladwriaethau Ewrop, gyda’r ysgol olaf yn cynrychioli’r Comisiwn Ewropeaidd. Bydd dau fyfyriwr o bob ysgol yn cymryd arnynt mai hwy yw gweinidogion llywodraeth eu gwlad benodol,  a dau ddisgybl o ysgol IES Pius Font i Quer, Barcelona, fydd yn cynrychioli’r DU.

Bu cysylltiadau rhwng  Catalonia  a Chymru ers tro byd. Y llynedd, cafwyd ymweliad gan Ysgol Jaunpiebalga, o Latfia, un arall o bartneriaid Cymru, am fod yr ysgol honno wedi sefydlu cysylltiadau ag un o’n hysgolion ni.

Meddai Jane Hutt:

“Mae’n anrhydedd inni gynnal Ffug Gyngor yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru am yr ail flwyddyn. Bydd y digwyddiad heddiw yn ategu’r llwyddiant a gafwyd y llynedd, gan roi cyfle i’r myfyrwyr gynnal dadl a phleidleisio ar y materion allweddol sy’n effeithio ar yr UE.

“Rwy’n sicr y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael budd mawr iawn o’r profiad hwn heddiw. Mae’n gyfle gwych i ymarfer sgiliau cyflwyno dadl a diplomyddiaeth, gan fagu dealltwriaeth dda o’r ffordd y mae’r UE yn gweithredu ar yr un pryd.”

Bydd Andy Klom, Pennaeth y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, yn helpu i agor y Ffug Gyngor.  Dywedodd:

"Rwy’n falch dros ben bod Ffug Gyngor yn cael ei gynnal yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Dyma gyfle heb ei ail i bobl ifanc gael darlun go iawn o swyddogaethau a gweithgareddau’r UE.

"Tra bo cenedlaethau’r gorffennol yn Ewrop wedi’u condemnio i’r ffosydd rhyfel, mae’r Undeb Ewropeaidd heddiw yn dangos y bydd cenedlaethau o bobl ifanc, heddiw ac yn y dyfodol, yn mynd i’r afael â materion mawr ein hoes gyda chymorth ysgrifbin, gliniadur, sgiliau dadlau ac, yn bennaf oll, eu crebwyll. Pob lwc i’r holl Ewropeaid ifanc sy’n cymryd rhan yn Ffug Gyngor yr UE.”

24 Medi 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Addysg a sgiliau Ewrop

Tagiau

Rhyngwladol 24 Medi 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i