Casglwyd y data sydd wedi’u cyhoeddi heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 27 Mawrth 2011 ac mae’n dangos bod poblogaeth Cymru bellach yn 3.06 miliwn, sy’n gynnydd o 153,000 ers 2001. Mae hefyd yn dangos pa ardaloedd sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru a sut y mae patrwm oedran y boblogaeth yn newid.
Dywedodd Jane Hutt:
"Diolch i bawb a lenwodd y Cyfrifiad y llynedd. Mae’r data yn hanfodol o ran cynllunio gwasanaethau addysg, trafnidiaeth ac iechyd ledled Cymru.
"Mae poblogaeth Cymru bellach yn 3.06m, felly mae’n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni’r gwasanaethau priodol yn y llefydd priodol.
"Dros y flwyddyn i ddod, caiff mwy o ddata’r Cyfrifiad eu rhyddhau. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth i ni am grwpiau ethnig, crefydd, ffordd o deithio i’r gwaith, iechyd a theuluoedd, hunaniaeth, iaith Gymraeg, cyflogaeth ac addysg. Bydd hyn oll yn rhoi darlun mwy cyflawn i ni o Gymru a’r bobl sy’n byw yma."
Mae’r data sydd wedi’i gyhoeddi heddiw yn cynnwys amcangyfrifon o’r canlynol:
- Y boblogaeth sy’n byw yma fel arfer fesul blwyddyn oedran a fesul rhyw ar gyfer Cymru a Lloegr; a fesul grwpiau oedran o bum mlynedd a rhyw ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol;
Nifer yr aelwydydd yng Nghymru ac yn Lloegr, ac yn yr ardaloedd awdurdodau lleol;











