Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Jane Hutt yn croesawu cyhoeddi data’r cyfrifiad

Mae’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, wedi croesawu’r ffaith fod y set gyntaf o ddata o Gyfrifiad 2011 wedi’i chyhoeddi.
Dydd Llun 16 Gorffennaf 2012

Casglwyd y data sydd wedi’u cyhoeddi heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 27 Mawrth 2011 ac mae’n dangos bod poblogaeth Cymru bellach yn 3.06 miliwn, sy’n gynnydd o 153,000 ers 2001. Mae hefyd yn dangos pa ardaloedd sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru a sut y mae patrwm oedran y boblogaeth yn newid.

Dywedodd Jane Hutt:

"Diolch i bawb a lenwodd y Cyfrifiad y llynedd. Mae’r data yn hanfodol o ran cynllunio gwasanaethau addysg, trafnidiaeth ac iechyd ledled Cymru.

"Mae poblogaeth Cymru bellach yn 3.06m, felly mae’n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni’r gwasanaethau priodol yn y llefydd priodol.

"Dros y flwyddyn i ddod, caiff mwy o ddata’r Cyfrifiad eu rhyddhau. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth i ni am grwpiau ethnig, crefydd, ffordd o deithio i’r gwaith, iechyd a theuluoedd, hunaniaeth, iaith Gymraeg, cyflogaeth ac addysg. Bydd hyn oll yn rhoi darlun mwy cyflawn i ni o Gymru a’r bobl sy’n byw yma."

Mae’r data sydd wedi’i gyhoeddi heddiw yn cynnwys amcangyfrifon o’r canlynol:

  • Y boblogaeth sy’n byw yma fel arfer fesul blwyddyn oedran a fesul rhyw ar gyfer Cymru a Lloegr; a fesul grwpiau oedran o bum mlynedd a rhyw ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol;
    Nifer yr aelwydydd yng Nghymru ac yn Lloegr, ac yn yr ardaloedd awdurdodau lleol;
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 16 Gorffennaf 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i