Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymru’n agored i fusnes, medd Jane Hutt

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r sectorau cyhoeddus a phreifat i gael y gwerth gorau am arian, ac i gefnogi’r economi wrth wario arian cyhoeddus. Dyna a ddywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, wrth gynadleddwyr o fyd diwydiant ac o’r sector cyhoeddus.
Dydd Iau 14 Mehefin 2012

Roedd y Gweinidog yn siarad yn ‘Sector Cyhoeddus Cymru: Ar Agor am Fusnes’, sef digwyddiad a drefnwyd yng Nghaerdydd gan Lywodraeth Cymru i roi sylw i arferion da ym maes caffael, i drafod arferion gwael, ac i drafod sut i gael y cydbwysedd iawn er mwyn gwneud penderfyniadau doeth.  

Gyda mwy na 250 o gynrychiolwyr yno o fyd busnes, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, dywedodd Jane Hutt:  

"Mae ein ffordd o ddefnyddio £4.3 biliwn o arian cyhoeddus yn cael effaith enfawr ar swyddi a busnesau yng Nghymru.  Rydyn ni eisiau gweld yr arian yma yn cael ei wario mewn ffordd sy’n cefnogi’r economi, yn creu swyddi ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel ymhob rhan o Gymru.

"I gefnogi ein blaenoriaeth i gael twf a swyddi, mae yna ymrwymiad i sicrhau bod prosesau caffael cyhoeddus yn syml, a bod contractau’n agored i bawb.

"Rydyn ni eisoes wedi symleiddio ein dull cyn-gymhwyso a’r gyfres o gwestiynau. Mae hyn yn bendant wedi helpu i wneud contractau’n fwy posib i gyflenwyr llai.  

"Mae gwahaniaeth i’w weld eisoes yn y sector adeiladu. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae busnesau Cymreig – y rhai sydd â’u pencadlys yng Nghymru – wedi ennill 51 o’r 75 o gontractau neu fframweithiau a ddyfarnwyd, gwerth £780 miliwn ohonynt. Y flwyddyn cynt, dim ond 18 o ddyfarniadau y llwyddodd busnesau o Gymru i’w cael, felly mae’n amlwg fod hyn yn cael effaith yn barod."

Hefyd, pwysleisiodd y Gweinidog fod y polisi Manteision Cymunedol yn cael effaith. Mae’r polisi hwn yn rhoi amod mewn contractau fod yn rhaid i fusnesau amlinellu sut y byddan nhw’n sicrhau canlyniadau cymdeithasol megis hyfforddiant a chyflogaeth i bobl dan anfantais ac yn defnyddio cadwyni cyflenwi lleol.  

Ychwanegodd Jane Hutt:

"Mae’r polisi eisoes wedi dod â manteision i unigolion a chwmnïau ledled Cymru. Allan o’r saith prosiect cyntaf i gael eu cwblhau, ac a oedd yn werth £186 miliwn, cafodd 87% ei wario yng Nghymru. Aeth £66 miliwn yn uniongyrchol ar gyflogau i bobl yn byw yng Nghymru, aeth £96 miliwn i fusnesau Cymreig, a chafodd rhyw 170 o bobl dan anfantais yng Nghymru werth 8,600 o wythnosau o brofiad gwaith. Dyma beth yr ydw i eisiau ei weld yn digwydd gyda phob contract mawr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

"Ond mae’n bwysig cofio na chawn ni fyth un ateb ar gyfer caffael yng Nghymru. Mae’n fater o gael strategaethau craff a datblygedig. Gyda rhai contractau, bydden ni eisiau denu buddsoddiad o’r tu allan, a gyda rhai eraill, bydden ni eisiau gweld microfusnesau llai yn cydweithio ac yn creu consortia.  

"Trwy gyfuno’r dull caffael cywir gyda sector fusnes sy’n gryf ac yn uchelgeisiol, gellir gwneud llawer o ddaioni. Bydd busnesau nid yn unig yn gallu helpu’r sector cyhoeddus i godi safon ein gwasanaethau a’u gwneud yn fwy effeithlon – i’r busnesau iawn, mae’r sector cyhoeddus yn aml yn gallu rhoi’r llwyfan cadarn sydd ei angen er mwyn ymestyn i farchnadoedd y tu hwnt i Gymru.

"Byddwn i’n annog pawb i groesawu prosesau sy’n agored, yn dryloyw ac yn syml. Byddwn i’n eu hannog hefyd i fodyn agored i drafod, yn agored i heriau adeiladol ac yn agored i newid. Dyna sut y gallwn ni ddangos bod Cymru yn wir yn agored i fusnes."


 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ar Agor am Fusnes De Cymru

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 14 Mehefin 2012 Yr economi Programme for Government - Public Services Gwasanaethau cyhoeddus Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i