Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyhoeddi cymorth ariannol Buddsoddi i Arbed gwerth £11m i sicrhau gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac arloesol

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, y bydd £11m ar gael o’r gronfa Buddsoddi i Arbed i helpu’r sector cyhoeddus i ymateb i’r her o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn modd mwy effeithlon ac effeithiol.
Dydd Llun 05 Mawrth 2012

Dywedodd Jane Hutt:

"Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi £52m o’r gronfa Buddsoddi i Arbed i dros 50 o brosiectau gyda’r nod o wella gwasanaethau. Heddiw, dw i wedi agor y gronfa ar gyfer cylch ceisiadau newydd a bydd £11m arall ar gael i brosiectau sy’n ymgeisio yn 2012-13.

"Mae’r cyllid o’r gronfa Buddsoddi i Arbed yn helpu sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus i greu ffyrdd mwy effeithlon ac arloesol o ddarparu gwasanaethau. Yn ddiweddar, ymwelais â Gorsaf Wybodaeth Casnewydd yn Un sy’n enghraifft wych o sut y gellir gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n ffrwyth cydweithio rhwng sefydliadau i rannu adnoddau, offer a swyddfa, gan gynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yn y gymuned leol yn hytrach nag anghenion strwythurau sefydliadol."

Dywedodd Jane Hutt:

"Bydd y cyllid diweddaraf yn cael ei roi i brosiectau lle mae sefydliadau’n cydweithio, o fewn sectorau a rhyngddynt. O wneud hynny, gallwn fwrw ymlaen â’r agenda effeithlonrwydd ac arloesi trwy gefnogi prosiectau arloesol sy’n trawsnewid ein ffordd o ddarparu gwasanaethau.  

"Trwy gynnig gwasanaethau cydgysylltiedig, byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau effeithlon o ansawdd da ar gael i bawb a bod y cyllid cyfyngedig sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Gronfa Buddsoddi i Arbed

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 05 Mawrth 2012 Yr economi Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i