Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyllid cyfalaf gwerth £120 miliwn er mwyn darparu ysgolion, ysbytai a thai i Gymru

Mae'r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, Andrew Davies, wedi cyhoeddi fuddsoddiad cyfalaf gwerth bron £120 miliwn ar gyfer 2010/11 er mwyn adeiladu tai, darparu ysgolion ac ysbytai gwell a diogelu swyddi.
Dydd Mawrth 20 Hydref 2009
Y Gweinidog dros Gyllid ar Ddirprwy Weinidog dros Tai yn ddatblydiag tai fforddiadwy yn Radyr, Caerdydd

Cytunwyd ar ddyraniadau ar gyfer symiau hyd at £118.3 miliwn o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y buddsoddiad hwnnw’n dyblu a mwy, i dros £300 miliwn, gydag arian o gyllidebau cyfalaf yr adrannau, rhannau eraill o’r sector cyhoeddus, a’r sectorau gwirfoddol a phreifat.

Dywedodd y Gweinidog:

“Rydym mewn cyfnod economaidd anodd sy’n golygu bod angen i ni ddefnyddio’n adnoddau’n effeithiol ac yn effeithlon er mwyn sicrhau gwerth am y bunt Gymreig. Rydym wedi ymrwymo i raglen lywodraethu Cymru’n Un , a byddwn yn defnyddio’r cyllid cyfalaf sydd gennym i gyflawni’n strategol mewn perthynas â’r blaenoriaethau hyn.

“Pwyllgor Buddsoddi Cyfalaf Strategol y Cabinet sy’n gyfrifol am gadw llygad ar y broses o roi’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol ar waith, ac yr wyf wedi penodi panel o arbenigwyr annibynnol i gynghori’r Gweinidogion. Mae gan aelodau’r panel  brofiad helaeth mewn meysydd megis cynllunio, datblygu, ariannu a chyflawni prosiectau a rhaglenni cyfalaf mawr, ac maent eisoes wedi gallu ychwanegu gwerth sylweddol i’r gwaith o ddatblygu’n agenda buddsoddi.

“Mae hon yn ffordd gyffrous ac arloesol o fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf ac mae’n sicrhau buddiannau aruthrol yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Yn ogystal â darparu gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf, bydd y prosiectau hyn yn rhoi’r  hwb angenrheidiol i’r diwydiant adeiladu sydd wedi dioddef llawer yn ddiweddar. Rydym yn amcangyfrif y byddant yn creu neu’n cefnogi dros 3,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu.”

Dyrannwyd arian i’r deg prosiect canlynol:

  • £20 miliwn ar gyfer tai fforddiadwy.
  • £35 miliwn ar gyfer Gweithfeydd Dysgu Glynebwy gan gynnwys darpariaeth ysgol 3-16 a chanolfan chwaraeon/hamdden a’r celfyddydau.
  • £12 miliwn ar gyfer Campws Dysgu Taf Elái
  • £5.3 miliwn ar gyfer adeiladau ysgol yng Ngwynedd.
  • £10 miliwn ar gyfer tair Canolfan Cydgysylltu Strategol.
  • £15 miliwn ar gyfer canolfan gelfyddydau a gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor.
  • £8.5 miliwn ar gyfer Canolfan Gofal mewn Argyfwng yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.
  • £8 miliwn ar gyfer Ysbyty Plant Cymru.
  • £3.5 miliwn ar gyfer Oriel Gelf Glyn Vivian, Abertawe.
  • £975,000 ar gyfer gosod goleuadau eco o amgylch 17 heneb.

Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am bob prosiect maes o law.

20 Hydref 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gwella gwasanaethau cyhoeddus Fuddsoddi Cyfalaf Strategol

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 20 Hydref 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i