Bydd yr arolwg, a gynhelir ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru rhwng nawr a Chwefror 2010, yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad a chyrff gwasanaeth cyhoeddus eraill i wneud y canlynol:
- Asesu safbwyntiau pobl a’u profiadau o wasanaethau cyhoeddus;
- Monitro tueddiadau barn ac anghenion pobl Cymru;
- Cynorthwyo i ddatblygu polisïau, er enghraifft ar faterion amgylcheddol a’r rhyngrwyd; a
- Phennu blaenoriaethau a thargedu adnoddau i ddiwallu anghenion.
Dywedodd Andrew Davies, y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus:
“Yn y cyfnod economaidd heriol hwn, mae’n hanfodol ein bod yn ceisio sicrhau’r gwerth gorau posibl o’r “Bunt Gymreig” trwy gael hyd i ffyrdd mwy effeithlon ac arloesol o wella gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r gwasanaethau ganolbwyntio ar y dinasyddion ac ar anghenion y cyhoedd.
“Mae angen inni siarad â’r dinasyddion i ganfod eu anghenion a’r hyn y maent yn ei ddisgwyl gan wasanaethau cyhoeddus. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i bobl o bob rhan o Gymru leisio’u barn am faterion sy’n bwysig iddynt hwy, a chyfrannu at y gwaith o lunio polisïau Llywodraeth y Cynulliad.”
5 Hydref 2009











