Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn fawr ei groeso i adroddiad ar chwalu’r rhwystrau i fusnesau

Mae Llywodraeth y Cynulliad newydd gyhoeddi adroddiad ymchwil pwysig ar y rhwystrau sy’n wynebu busnesau bach a chanolig yng Nghymru sydd am ennill contractau cyhoeddus.
Dydd Mercher 27 Mai 2009

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Andrew Davies, y Gweinidog Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus trwy’r Tasglu Caffael Busnes y mae’n ei gadeirio.  Cafodd yr adroddiad ei lunio ar y cyd gan Brifysgol Morgannwg a Tenderwise (Prifysgol Bangor a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin).

Prif sylw’r ymchwil oedd y cyswllt cyntaf rhwng busnesau a phrynwyr y sector cyhoeddus, sef y broses rag-gymhwyso a defnyddio “rhestrau cymeradwy”.  Dangosodd yr ymchwil fod prynwyr yn gofyn i gyflenwyr am yr un wybodaeth o hyd ac o hyd cyn bod unrhyw gontract yn cael ei arwyddo.  Yr unig beth sy’n gallu bod ychydig bach yn wahanol yw’r fformat.

Y prif argymhelliad yw y dylai’r prosesau hyn gael eu safoni ac y dylai cronfa ddata o’r brif wybodaeth graidd am bob cyflenwr gael ei chadw a bod y prynwr yn ei defnyddio fel rhan o’r broses rag-gymhwyso.  

Meddai Andrew Davies:

"Rwy’n fawr fy nghroeso i’r adroddiad hwn gan Brifysgol Morgannwg a Tenderwise ar y rhwystrau i fusnesau.  Bydd y darganfyddiadau’n gyfraniad pwysig i daclo’r problemau hyn er bod fy adran Gwerth Cymru eisoes yn mynd i’r afael â llawer agwedd ar y gwaith.  Byddaf yn ystyried pob argymhelliad ac yn cyhoeddi fy ymateb maes o law.

“Mae’r argymhellion yn berthnasol i’r sector cyhoeddus gyfan yng Nghymru.  Ein rôl ni yn Llywodraeth y Cynulliad yw sbarduno’r newidiadau ond bydd yn rhaid inni gydweithio’n glos â chynghorau lleol a phartneriaid eraill i gytuno ar gynllun gweithredu i fynd â’r gwaith yn ei flaen.”

27 Mai 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 27 Mai 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i