Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Adroddiad yr IFS yn cadarnhau pryderon Llywodraeth Cymru am Fudd-dal Treth Gyngor

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, fod adroddiad a gyhoeddwyd gan sefydliad astudiaethau cyllid yr IFS (Institute of Fiscal Studies) ynglŷn â budd-dal treth gyngor yn cadarnhau’r pryderon y mae Llywodraeth Cymru wedi eu mynegi i Lywodraeth y DU ynglŷn ag effaith y toriadau yng Nghymru.
Dydd Iau 21 Mehefin 2012

Mae adroddiad newydd gan ymchwilwyr y sefydliad yn dweud y bydd teuluoedd sydd ar incwm isel yng Nghymru ac sy’n derbyn cymorth gyda’u biliau treth gyngor yn colli £74 y flwyddyn ar gyfartaledd wrth i doriadau yn arian Llywodraeth y DU gael eu pasio ymlaen gan Lywodraeth Cymru i’r rai sy’n hawlio’r budd-dal.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae’r adroddiad yma yn nodi’r heriau sy’n wynebu Llywodraeth Cymru wrth sefydlu system erbyn Ebrill 2013 i ddod yn lle’r budd-daliadau treth gyngor. Mae’n cadarnhau’r hyn yr ydym wedi bod yn ei ddweud erioed wrth Lywodraeth y DU am ein pryderon dwfn ynglŷn â’r effaith y bydd y toriadau i fudd-dal treth gyngor yn ei chael ar rai o aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas. Yn gynharach yr wythnos yma, fe fynegais y pryderon hyn eto wrth Iain Duncan Smith, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau.

"Mae budd-dal treth gyngor yn fudd-dal cyffredin, gyda’r rhai sy’n ei hawlio yn byw ar ffin tlodi - pensiynwyr, rheini sengl a phobl mewn gwaith ar gyflogau isel. Mae’r teuluoedd yma eisoes yn ei chael yn anodd oherwydd effeithiau’r broses ehangach o ddiwygio’r gyfundrefn les. Dim ond un ergyd arall fydd y gostyngiad yn y cymorth y maent yn ei dderbyn tuag at eu treth gyngor.

"Nid yw Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eto faint o gyllid y bydd yn ei throsglwyddo i Gymru ar gyfer budd-dal treth gyngor. Nid yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau wedi dweud a fydd Llywodraeth y DU yn ariannu costau sefydlu system newydd, a gallai hynny fod yn rhai miliynau o bunnau, ac maent wedi bod yn llusgo eu traed wrth sefydlu’r trefniadau angenrheidiol ar gyfer cael gafael ar y data er mwyn gweinyddu cynllun.

"Yn dilyn ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Ebrill, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau ar gyfer y cynllun, a bydd yn talu sylw i ganfyddiadau adroddiad yr IFS.

"O ystyried y diffyg yn yr arian, yn ogystal â’r diffyg manylion mewn cyn lleied o amser, rydym yn llwyr sylweddoli bod heriau’n ymwneud â chreu cynllun o’r fath, a bydd angen inni ystyried trefniadau ar gyfer gwneud hynny yn y tymor byr ac yn y tymor hir."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Darparu Cymorth gyda’r Dreth Gyngor yng Nghymru

Tagiau

Tai a chymunedau 21 Mehefin 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i