Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Huw Lewis wedi’i blesio gydag agwedd asiantaeth flaenllaw

Wrth i’r gwaith o lunio’r Bil Tai barhau, mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth wedi canmol y gwaith sy’n cael ei wneud yn y sector rhentu preifat gan Gymdeithas Tai Cadwyn, gan gyfeirio ato fel enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fo asiantaethau yn gweithio gyda’i gilydd.
Dydd Gwener 31 Awst 2012

Mae’r Papur Gwyn Tai, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2012, yn tynnu sylw, ymhlith pethau eraill, at gyfraniad hollbwysig y sector rhentu preifat wrth gwrdd â’r galw am dai at y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Tai, “Wrth ymgynghori ar y cynigion yn ein Papur Gwyn, rydym wedi cael ymateb anhygoel gan bob rhan o’r sector tai. Bydd yn gyffrous gweld sut y caiff y rhain eu hymgorffori i mewn i’r Bil. Mae cymdeithasau tai megis Cadwyn yn gosod esiampl o waith arloesol a chydweithredol ac yn rhoi tystiolaeth i ni o’r math o ganlyniadau sy’n lleihau’r pwysau sydd ar y farchnad dai – marchnad sydd â gormod o faich arni yn barod.”

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol yn yr asiantaethau gosod tai cymdeithasol yng Nghymru. Bellach, mae asiantaethau yn gweithio mewn 21 o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae’r mwyafrif wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru i sefydlu eu gwasanaeth.

Mae CanDo Lettings - adain o Gymdeithas Tai Cadwyn, ac un o asiantaethau gosod tai mwyaf blaenllaw Cymru – wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau tenantiaid drwy weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i leihau digartrefedd drwy sicrhau bod tai preifat ar gael i’w rhentu

Mae CanDo yn rheoli eiddo ar ran landlordiaid preifat ac yn eu gosod i bobl sydd angen tŷ. Drwy wneud hynny, maent yn lleihau rhestrau aros yr Awdurdod Lleol ac mae nifer y bobl ddigartref yn lleihau.

Un o’r tenantiaid hynny yw Claire Smith ac mae CanDo Lettings wedi newid ei bywyd hi’n llwyr. Daeth Claire at CanDo wedi iddi gael profiad negyddol iawn gyda’i landlord blaenorol. Roedd hi a’i theulu yn byw mewn eiddo a oedd mewn cyflwr gwael iawn. Roedd lleithder yn broblem ddifrifol yno ond nid oedd y landlord yn fodlon gwneud unrhyw beth ynghylch y broblem. Roedd Claire yn poeni’n ofnadwy am yr effaith yr oedd yn ei gael ar iechyd corfforol a meddyliol ei theulu.

Ymhen hir a hwyr,  fe wnaeth Cyngor Caerdydd gondemnio’r eiddo a bu’n rhaid i Claire a’i theulu adael y tŷ heb fawr o rybudd. Gan nad oedd ganddi arian ar gyfer bond nac ychwaith arian i dalu rhent o flaen llaw, nid oedd Claire yn gallu cael llety yn y sector rhentu preifat. Roedd hi’n wynebu’r posibilrwydd o fod yn ddigartref. Yn ffodus, daeth CanDo Lettings i’r adwy yn gyflym. Gweithion nhw gyda Claire er mwyn dod o hyd i dŷ ag iddo pedair ystafell wely a doedd dim angen iddi dalu arian o flaen llaw. Fe gymerodd CanDo Lettings gyfrifoldeb dros bopeth gan godi’r pwysau oddi ar Claire yn ystod cyfnod anodd.

Dywedodd Claire: “Cyn i mi ddod at CanDo Lettings, roeddwn yn byw mewn budreddi a doedd y landlord ddim yn cael ei gosbi. Mae’r tîm yn CanDo wedi bod yn wych ac rydw i mor ddiolchgar iddynt am roi cartref hyfryd i fi. Alla i ddim diolch digon iddyn nhw!”  

Dywedodd Ben Reynolds, Negodydd i CanDo Lettings: “Pan gwrddais â Claire, roedd hi’n crynu. Roedd yn amlwg bod y sefyllfa wedi cael effaith mawr iawn arni. Doedd hi ddim yn gallu credu’r gwahaniaeth yn yr hyn yr oedd CanDo yn ei wneud o gymharu â’r hyn yr oedd hi wedi bod drwyddo gyda’r landlord blaenorol. Fe lefodd hi pan ddywedais wrthi y gallai hi symud i mewn i’r eiddo. Llwyddais i sicrhau ei bod yn symud o fewn diwrnod. Roeddwn i’n gallu gweld y rhyddhad arni pan sylweddolodd bod gan ei theulu rhywle neis i fyw a bod modd iddynt ddechrau o’r newydd.”

Dim ond un enghraifft yw hon o’r gwahaniaeth y mae CanDo Lettings wedi’i wneud i fywydau tenantiaid drwy weithio mewn partneriaeth â’r sector rhentu preifat. Wrth i’r sector rhentu preifat ddod yn fwyfwy pwysig , mae CanDo yn bwriadu parhau â’i llwyddiant fel un o asiantaethau gosod tai mwyaf blaenllaw Cymru sy’n darparu cartrefi ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl sydd mewn angen.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Tai cymdeithasol

Tagiau

Tai a chymunedau 31 Awst 2012 Programme for Government - Homes Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i