Bydd y swyddogion hyn yn gweithio law yn llaw â Heddlu Trafnidiaeth Prydain i helpu i fynd i’r afael â throseddu ar y rheilffyrdd. Allan o’r 18 o’r Swyddogion Cymorth Cymunedol hyn a raddiodd, bydd 12 yn cael eu lleoli yng Nghaerdydd a chwech ym Mangor.
Cyfarfu’r Gweinidog hefyd â’r Prif Arolygydd Sandra England a fu’n egluro rôl y swyddogion cymorth cymunedol wrth iddynt gydweithio’n agos â phartneriaid Heddlu Trafnidiaeth Prydain, fel y cwmnïau trenau a Network Rail, i wneud y rheilffyrdd yn fwy diogel i deithwyr a staff.
Dywedodd Carl Sargeant:
"Fel rhan o’n Rhaglen Lywodraethu rydyn ni wedi ymrwymo i roi arian ar gyfer 500 o swyddogion ychwanegol i weithio ledled Cymru erbyn 2013.
"Bydd y Swyddogion Cymorth Cymunedol yn ychwanegiad gwerthfawr a gweladwy i’r adnoddau heddlu sydd eisoes yn bodoli. Byddan nhw’n ymgysylltu â thrigolion lleol a sefydliadau yn ein cymunedau ac yn darparu cymorth a sicrwydd.
"Mae’r rhwydwaith rheilffyrdd yn chwarae rhan bwysig yn cysylltu ein cymunedau yng Nghymru. Bydd y swyddogion y cefais gyfarfod â nhw yn ddiweddaf yn cynorthwyo Heddlu Trafnidiaeth Prydain ac yn helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac unrhyw darfu a throseddu ar ein rheilffyrdd.
"Nid yw’r swyddogion hyn yn disodli swyddogion yr heddlu â gwarant. Maen nhw yno i ategu a chefnogi adnoddau’r heddlu sydd eisoes yn bodoli. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi plismona yng Nghymru, yn arbennig ar adeg pan mae lluoedd yr heddlu’n wynebu toriadau sylweddol gan Lywodraeth y DU, a fydd yn anochel yn effeithio ar blismona rheng flaen."
Dywedodd y Prif Arolygydd Sandra England:
"Bydd y Swyddogion Cymorth Cymunedol yn darparu gwasanaeth mwy amlwg a sicrwydd ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Maen nhw’n rhan ganolog o’n timoedd plismona lleol ac yn delio â phroblemau o fewn ein cymunedau, gan ddarparu gwasanaeth sy’n helpu i bobl deimlo’n ddiogel wrth ddefnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd."











