Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Pêl-droed Stryd Cymru

Wrth eu croesawu mewn derbyniad yn y Senedd, bu Huw Lewis y Gweinidog Chwaraeon yn dangos ei gefnogaeth i Bêl-droed Stryd Cymru, rhwydwaith bêl-droed i’r digartref neu bobl sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol, sy’n mynd allan i gystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd ar gyfer y Digartref ym Mecsico yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dydd Gwener 13 Gorffennaf 2012

Mae Pêl-droed Stryd Cymru wedi derbyn cyllid yn ddiweddar gan Gronfa’r Loteri Fawr i greu cynghrair newydd yng Nghasnewydd/Caerdydd ac Abertawe.  Bydd y grant o £172,520 yn golygu y gall y rhaglen greu rhwydwaith bêl-droed stryd ar gyfer y digartref neu bobl sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol ledled Cymru am y dair mlynedd nesaf.  

Meddai Mr Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth,

“Gall chwaraeon gael nifer o effeithiau positif fel gwella iechyd a ffitrwydd corfforol, hunan-barch, hybu dinasyddiaeth dda a rhoi pwrpas i bobl mewn bywyd.  

“Yn anffodus, mae digartrefedd yn cynyddu, gyda mwy o bobl mewn perygl o golli eu cartrefi ac yn ei chael yn anodd i sefydlu cartref diogel a sefydlog.  

“Mae’r cynghreiriau pêl-droed newydd sydd wedi’u sefydlu yn nwyrain a gorllewin Cymru yn boblogaidd iawn ac rwy’n llongyfarch y rhai sy’n rhan o’r cynllun am y gwaith y maen nhw wedi’i wneud yn trefnu’r cynghreiriau.  Rwy’n ymwybodol bod cynlluniau hefyd i sefydlu cynghrair yng Ngogledd Cymru, felly bydd diddordeb yn cael ei greu ledled Cymru.”  

Prosiect cynhwysiant cymdeithasol yw Pêl-droed Stryd Cymru sydd wedi’i gynllunio mewn partneriaeth â Gofal a Chymorth Gwalia, sy’n anelu at gysylltu â’r rhai hynny sydd bellaf i ffwrdd o’r brif ddarpariaethau chwaraeon.  

Yn 2009 rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad £1,500 i Dîm Pêl-droed y Dreigiau (sydd dan reolaeth Pêl-droed Stryd Cymru) i’w galluogi i gystadlu yng Nghwpan y Digartref ym Milan.  Enillwyd nifer o gemau ganddynt yn y twrnamaint a bu i’r tîm fwynhau’r profiad yn fawr, ac roeddent yn falch iawn o gynrychioli Cymru.  

Er nad oedd yn bosib iddyn nhw anfon tîm swyddogol yn 2011, mae Cymru bellach wedi’u gwahodd i anfon tîm i Mecsico ym mis Hydref ar gyfer cystadleuaeth eleni.  Diolch i’r arian gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Gwalia a phartneriaid chwaraeon eraill, mae bellach yn bosib i Gymru anfon tîm i gemau Cwpan y Byd ar gyfer y Digartref ym Mecsico ym mis Hydref, fydd yn golygu y byddant yn cystadlu yn erbyn timau o 56 o wledydd ledled y byd.  

Aeth y Gweinidog yn ei flaen,

“Dwi’n gwybod bod y chwaraewyr sydd wedi’u dewis yma heddiw, a llongyfarchiadau i chi i gyd – dwi’n siŵr y byddwch yn mwynhau’r cyfle gwych hwn a bydd yn ddigwyddiad i’w gofio.  

“Bydd dros 50 o dimau ledled y byd yn cystadlu ac mae’n dda gwybod y bydd Cymru yn un ohonyn nhw a bod diddordeb ledled y byd mewn cefnogi’r rhai hynny sy’n gweld eu bod yn ddigartref.”  

Mae wedi’i brofi y gall gweithgareddau hamdden a diwylliannol chwarae rôl hollbwysig wrth fagu hyder pobl ddigartref i fynd i’r afael â phroblemau hirdymor, ac mae Pêl-droed Stryd Cymru hefyd yn cynnig cyngor a chymorth ym maes tai.  

Gall Pêl-droed Stryd chwarae rhan wrth dorri’r cylch digartrefedd ymysg pobl fregus.  Mae’r rhaglen yn monitro datblygiad y cyfranogwyr o ran digartrefedd ac anghenion eraill fel iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.  

Mae’r gynghrair yn cynnwys dynion a merched, a rhoddir pwyntiau tegwch wrth chwarae i dimau merched a dynion cymysg a pharch geiriol a chorfforol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Digartrefedd

Tagiau

Tai a chymunedau 13 Gorffennaf 2012 Programme for Government - Homes Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i