Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyfle i landlordiaid ac asiantaethau gosod tai ddweud eu dweud

Heddiw mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth wedi galw ar landlordiaid, asiantaethau gosod tai preswyl ac asiantaethau rheoli tai, yn ogystal â thenantiaid y sector rhent preifat i ddweud eu dweud ar y cynigion ar gyfer y sector rhent preifat yng Nghymru.
Dydd Gwener 06 Gorffennaf 2012

Fel rhan o’r ymgynghoriad parhaus ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell fydd yn arwain at y Bil Tai yn 2013, mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi papur ymgynghori ar yr elfennau penodol sy’n ceisio moderneiddio’r sector rhent preifat.  

Mae’r cynigion yn cynnwys cofrestru a thrwyddedu gorfodol ar gyfer landlordiaid preifat, yn ogystal ag asiantaethau gosod ac asiantaethau rheoli yn y sector tai rhent preifat.  Bydd y trefniadau trwyddedu hefyd yn cynnwys cod ymddygiad gorfodol i unrhyw un sy’n gosod ac / neu reoli eiddo preswyl.  

Meddai’r Gweinidog,

“Mae llety rhent preifat yn rhan hollbwysig o’r ddarpariaeth dai, sy’n darparu cartrefi i nifer sylweddol o bobl, ac yn helpu i osgoi digartrefedd.  Fodd bynnag, mae problemau ansawdd yn gysylltiedig â rhywfaint o’r llety rhent preifat, yn ogystal ag arferion diegwyddor lleiafrif y landlordiaid a’r asiantaethau gosod, sy’n golygu nad yw’r sector weithiau’n cael ei ystyried yn opsiwn da.  

“Mae ein cynigion yn ceisio mynd i’r afael â’r problemau hyn ac yn ceisio  gwella pen rhataf y sector fel y gall pob tenant fwynhau llety o safon uchel, ac nad oes yn rhaid iddyn nhw ddioddef yr arferion y mae lleiafrif y landlordiaid anonest yn eu defnyddio ar hyn o bryd.  

“Mae llawer o landlordiaid ac asiantaethau gosod da iawn yng Nghymru, ac rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n croesawu’r cynigion hyn, gan eu bod, ar y cyfan, eisoes yn cyrraedd y safonau rydyn ni’n eu disgwyl.  Trwy gymryd camau i gael pawb arall i gyrraedd yr un safonau, byddwn yn sicrhau tegwch ar draws y sector rhent preifat.  Hoffwn felly annog unrhyw un sy’n gosod, yn rheoli neu’n rhentu eiddo preswyl yng Nghymru i ddweud eu dweud ar ein cynigion.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cynigion ar gyfer Gwell Sector Rhentu Preifat yng Nghymru

Tagiau

Tai a chymunedau 06 Gorffennaf 2012 Programme for Government - Homes Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i