Fe gyfarfu disgyblion o Ysgol Gynradd Caedraw â’r Dirprwy Weinidog ar y llwybr troed newydd sy’n cysylltu Coleg Merthyr i ganol y dref, llwybr Taf a swyddfeydd Llywodraeth Cymru ac Orbit yn Rhydycar.
Yn ystod ei ymweliad, fe roddodd y disgyblion yr enw, Llwybr Cyswllt y Dref Haearn, ar y llwybr newydd, sydd wedi ei gwblhau fel rhan o Gynllun Adfywio Merthyr Tudful gwerth £24 miliwn gan Gyngor Merthyr – gyda chefnogaeth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Rhaglen Blaenau'r Cymoedd drwy Lywodraeth Cymru .
Bydd y llwybr 1.2 cilomedr yn ei gwneud yn haws i gerddwyr a beicwyr ymarfer corff, cyrraedd y gweithle, a chyrraedd rhan isaf canol y dref lle mae gwelliannau hefyd wedi cael eu gwneud drwy’r rhaglen Amcan 1. Mae’r llwybr yn cynnwys hefyd un o’r pontydd cyntaf yng Nghymru i’w llunio o blastig wedi ei ailgylchu er ei bod yn ymddangos ei bod wedi ei llunio o bren.
Aeth y Dirprwy Weinidog i ganol y dref wedyn i agor yn swyddogol y siop wybodaeth adfywio newydd, y cyn siop watshis , lle gall y cyhoedd weld cynlluniau a darganfod am y gwelliannau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer yr ardal.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd , Alun Davies AC:
"Mae’n wych gweld sut mae cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd yn helpu i lywio adfywiad yn ac o gwmpas Merthyr Tudful. Bydd gwella’r amgylchedd lle mae pobl yn byw a gweithio yn cynyddu potensial economaidd yr ardal – gan ddenu buddsoddiad a symbylu cyfleoedd cyflogaeth."
Mae’r cynlluniau adfywio hefyd yn ymestyn i rannau eraill o’r dref a fydd hefyd yn cael eu hatgyfodi drwy greu man cyhoeddus newydd yn y Porth i Ardal Dreftadaeth Pontmorlais a gwell mynediad i’r orsaf drenau. Bydd Rhaglen Gwella Adeiladau ar gael yn cynnig cyllid i helpu busnesau wneud gwelliannau i’w heiddo masnachol, gan wella cymeriad y dref.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful , y Cynghorydd Brendan Toomey:
"Mae Rhaglen Adfywio Canol y Dref ar y gwell ers tipyn nawr, a bydd agor y Siop Wybodaeth Adfywio newydd yn rhoi gwybodaeth hawdd ei gael i’r cyhoedd ar y datblygiadau sy’n gwella canol ein tref, ac y gall mwy fyth o bobl gael mynediad drwy ‘Llwybr Cyswllt y Dref Haearn’ sydd newydd ei enwi. "
Dywedodd Dirprwy Brifathro Ysgol Caedraw, Neil Hancox,:
"Mae blwyddyn chwech wedi penderfynu enwi’r llwybr yn ‘Llwybr Cyswllt y Dref Haearn’ gan ei fod yn cysylltu tref haearn Merthyr Tudful â’r swyddfeydd newydd a’r datblygiadau yn Rhyd-y-car. Yn y gorffennol roedd cloddfeydd cerrig haearn yn yr ardal, a thrwy eu hastudiaethau, mae’r plant wedi gweld y cerrig haearn a’r glo wrth iddynt archwilio’r ardal. Maent hefyd wedi darllen llyfr o’r enw ‘Iron Town Boy’ – am fachgen ifanc sy’n chwilio am waith a threftadaeth ddiwydiannol y dref."











