Yn y gynhadledd yng Ngwesty’r Marriot yn Abertawe, tynnodd sylw at y Papur Gwyn ar Dai a gyhoeddwyd y mis diwethaf. Mae’r Papur yn disgrifio cynlluniau Llywodraeth Cymru i gymryd camau deddfwriaethol ac ymarferol i fynd i’r afael â digartrefedd a phroblemau eraill yn y sector tai.
Dywedodd:
"Er gwaethaf y gwaith gwych sydd wedi’i gyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf i atal pobl rhag mynd yn ddigartref, mae’r niferoedd wedi dechrau codi unwaith eto oherwydd y dirwasgiad ac effaith y newidiadau i fudd-daliadau lles.
"Yn y gorffennol doedd dim llawer o opsiynau gennym, ond gyda’n pwerau newydd mae’r sefyllfa wedi newid. Nawr, gallwn ni gyflawni mwy, ac rydyn ni’n benderfynol o wneud hynny o hyn ymlaen.
"Cafodd ein cynigion ar ddigartrefedd eu datblygu ar ôl cynnal prosiect ymchwil ac ymgynghori sylweddol yr oedd rhanddeiliaid o’r holl sectorau wedi cymryd rhan ynddo. Roedd y prosiect hefyd wedi ystyried profiadau gwledydd eraill, yn ogystal ag edrych ar ein deddfwriaeth bresennol. Dw i’n ffyddiog ein bod yn llunio set o fesurau a fydd yn cael sêl bendith llawer iawn o bobl ac a fydd yn cael effaith go iawn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
"Wrth wraidd y cynigion hyn y mae’r ffaith ein bod yn benderfynol i roi lle canolog i atal digartrefedd yn y dyletswyddau a roddir ar awdurdodau lleol. Dw i’n awyddus i weld y ddeddfwriaeth yn arwain at wasanaethau sy’n canolbwyntio ar atal digartrefedd trwy ddatrys problemau tai cyn iddyn nhw waethygu."
Hefyd, siaradodd y Gweinidog am yr angen inni i gyd weithio gyda’n gilydd os ydym am lwyddo i fynd i’r afael â digartrefedd:
"Er mai ar yr awdurdod lleol y bydd y ddyletswydd sylfaenol i gymryd camau i ddatrys problemau sy’n ymwneud â thai, rhaid pwysleisio ein bod yn disgwyl i’r sectorau eraill, gan gynnwys y sector gwirfoddol, gymryd camau i gefnogi ein hymdrechion.
"Mae’r sector rhentu preifat yn adnodd hanfodol sy’n rhoi dewisiadau i bobl a fyddai fel arall yn ddigartref. Y realiti hwnnw sy’n cael ei adlewyrchu yn ein cynnig i ganiatáu i’r brif ddyletswydd o ran digartrefedd gael ei chyflawni trwy ddefnyddio llety o ansawdd da yn y sector rhentu preifat. Er mwyn ategu hyn, bydd yna gynigion eraill yn y Papur Gwyn ar gyfer gwella safonau a dulliau rheoli yn y sector rhentu preifat.
"Rhaid i bawb yn y sector gydweithio i wella’r sefyllfa ac i addasu i’r amgylchiadau newydd o ran budd-daliadau lles, gan weithio hefyd gydag asiantaethau sy’n gosod eiddo cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu dod o hyd i lety addas lle bynnag y bydd hynny’n bosibl."
Nod y Papur Gwyn ar Dai, a fydd yn arwain at y Bil Tai yn 2013, yw sicrhau’r canlynol ar gyfer y dyfodol:
-
Bydd gan bawb gartref fforddiadwy sy’n bodloni ei anghenion
-
Ni fydd digartrefedd fel y cyfryw yn bodoli
-
Bydd pob cartref mewn cyflwr da ac yn cyrraedd y safonau priodol
-
Gwelir rhentu fel opsiwn sydd yr un mor dda â phrynu
-
Bydd modelau newydd fel tai cydweithredol yn elfennau pwysig o’r system dai
-
Bydd pobl yn cael eu helpu i fyw’n annibynnol a bydd cymorth ar gael i’r rheini y mae ei angen arnynt
-
Bydd mudiadau tai yn chwarae mwy o ran yn y gymuned ac yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
-
Bydd mudiadau yn cydweithredu’n well gan integreiddio eu hymdrechion yn effeithiol.
Mae’r ymgynghoriad ar y ddogfen ar agor tan 17 Awst.
Wrth gloi ei anerchiad, disgrifiodd y Gweinidog ei obeithion ar gyfer y dyfodol, gan ddweud:
"Dw i’n awyddus i weld y Bil ar ei ffurf derfynol yn adlewyrchu’r ffaith bod materion yn ymwneud â thai yn rhan anhepgor o’n gweledigaeth gyflawn ar gyfer creu cymdeithas deg a chyfiawn. Golyga hynny bod yn rhaid creu systemau gwell i atal digartrefedd a helpu pobl i ddianc rhag tlodi.
"Mae pawb yn haeddu byw mewn cartref fforddiadwy o ansawdd da sy’n defnyddio ynni’n effeithiol. Trwy fanteisio ar eich arbenigedd chi, eich sgiliau a’ch brwdfrydedd, gallwn fwrw ati i wneud hynny’n realiti."











