Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn canmol yr ymdrech fawr i ailgartrefu’r bobl sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd yng Ngheredigion

Mae'r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, wedi diolch i bawb sydd wedi helpu gyda’r gwaith brys o gael hyd i lety addas i’r bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd y llifogydd yng Ngheredigion yn gynharach yn y mis.
Dydd Llun 25 Mehefin 2012

Roedd y Gweinidog yn ymweld â chynllun Rheidol Place yn Aberystwytho eiddo Tai Ceredigion sydd yn cael ei ddefnyddio i ddarpau llety i rhai o'r bobl a effeithiwyd gan y llifogydd. Bu'n cwrdd hefyd â Stephen Jones ar y diwrnod yr oedd yn helpu ei fam i symud i’w llety newydd dros dro yng nghynllun llety gwarchod Tai Ceredigion, Afallen Deg yn Bow Street. Roedd ei chartref yn Talybont wedi’i ddifrodi gan y llifogydd.

Effeithiodd y llifogydd ar 122 o deuluoedd ledled Ceredigion a Gwynedd, gan wneud difrod hefyd i bump o safleoedd busnes. Mae tîm digartrefedd Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd a’r nos i helpu’r rheini sydd wedi gorfod symud i gael hyd i lety addas dros dro, a hynny gyda help cymdeithasau tai a’r sector rhentu preifat.

Dywedodd Mr Lewis,

“Trwy ymweld ag Aberystwyth heddiw, dw i wedi gweld drosof i fy hunan hyd a lled y dinistr a gafodd ei greu gan y llifogydd. Dw i hefyd wedi gweld pa mor gryf yw ysbryd y bobl leol sydd i gyd wedi cyd-dynnu i sicrhau bod y dioddefwyr yn cael yr holl help a chefnogaeth y mae eu hangen arnynt.

“O’r gwaith achub brys i’r gwaith o glirio ac ailgartrefu pobl tra mae eu cartrefi’n cael eu hadfer, Cyngor Ceredigion sydd wedi cydlynu’r cyfan, gyda help nifer o fudiadau a chymdeithasau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector, ac wrth gwrs y cymunedau eu hunain. Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel.

“Mae wedi bod yn amser trawmatig iawn i’r rheini sydd wedi dioddef, a rhaid bod proffesiynoldeb ac ymroddiad y swyddogion tai a pharodrwydd cymdeithasau tai fel Tai Ceredigion i helpu, yn gysur mawr.”

Mynegodd y Gweinidog ei gefnogaeth i apêl y Cyngor ar gyfer y rheini a ddioddefodd. Meddai,

“Mae’n rhaid bod colli cymaint yn y llifogydd yn ergyd anferth, ac i’r rheini nad oes ganddynt yswiriant digonol neu ddim yswiriant o gwbl, mae’r golled hyd yn oed yn fwy. Felly dw i’n falch o gael y cyfle i ddangos fy nghefnogaeth i’r apêl hon, a hoffwn annog pawb sy’n gallu sbario ychydig o bunnoedd i ystyried gwneud cyfraniad i’r gronfa.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Diogelwch cymunedol

Tagiau

Tai a chymunedau 25 Mehefin 2012 Tai Programme for Government - Sustainability Y Canolbarth
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i