Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyllid tai o dan y chwyddwydr

Cyllid ar gyfer y sector tai yng Nghymru oedd canolbwynt uwchgynhadledd a fynychodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid heddiw.
Dydd Iau 21 Mehefin 2012

Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Phapur Gwyn Tai. Yn dilyn cyhoeddi’r papur hwnnw sy’n gosod targed i godi 7,500 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y llywodraeth hon, rhoddodd yr uwchgynhadledd gyfle i gynrychiolwyr o blith y sector tai drafod y datblygiadau diweddaraf sy’n ymwneud â chyllid tai. Yn ogystal, rhoddodd gyfle iddynt ymchwilio i fodelau ariannol a fydd yn gymorth i gyflawni dyheadau’r Llywodraeth.

Roedd sawl cynllun arloesol ymysg y modelau a drafodwyd. Roedd y rhain yn cynnwys menter gymdeithasol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Adeiladu’r Principality i ddatblygu safle Pont Trelái yng Nghaerdydd a chyflenwi 700 o gartrefi newydd. Cynllun arall oedd Partneriaeth Tai Cymru a gafodd hwb ariannol yn ddiweddar wrth i Lywodraeth Cymru gyfrannu £6m a fydd yn denu cyfanswm o £30m ac yn gymorth i gyflenwi 280 o gartrefi a fydd ar gael am renti canolradd.

Wrth siarad yn y cyfarfod, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth,

“Mae’r Papur Gwyn yn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dai fforddiadwy yng Nghymru. Mae’n ddogfen uchelgeisiol iawn ac er mwyn cyrraedd ein nodau bydd yn rhaid i’r sector tai i gyd weithio gyda’i gilydd. Felly rydw i’n falch iawn i gael y cyfle i drafod y materion hyn yma heddiw.  

Mae’r sefyllfa economaidd sydd ohoni ar hyn o bryd a pholisïau cyllido llywodraeth y DU yn golygu bod yn rhaid i ni wneud mwy â llai. Eisoes, mae gennym esiamplau o fodelau cyllido newydd gyda Phartneriaeth Tai Cymru a Phont Trelái ond mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn adeiladu ar y rheini nid yn unig drwy roi cyllid ond drwy annog mwy o gymdeithasau a phartneriaid eraill i fod yn arloesol."

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid,

“Cyhoeddon ni’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ym mis Mai. Roedd hynny’n dangos ein hymrwymiad i dwf a swyddi, yn enwedig ein lefel uchel o ymrwymiad i fuddsoddi mewn tai.  

“Gyda’r dulliau gweithredu a’r pwerau sydd gennym, rydym yn benderfynol o wneud yr hyn a allwn - mewn partneriaeth - i ddatblygu polisïau sy’n symbylu ac yn cryfhau’r economi gan ganoli ein hadnoddau ar flaenoriaethau allweddol megis tai.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Tai

Tagiau

Tai a chymunedau 21 Mehefin 2012 Yr economi Tai Programme for Government - Homes Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i