Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn Troedio Strydoedd y Rhyl

Heddiw aeth Carl Sargeant y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar batrôl o amgylch y Rhyl yng nghwmni Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, er mwyn gweld y gwaith maen nhw’n ei wneud yn y gymuned leol.
Dydd Llun 23 Ebrill 2012

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dalu am swyddi 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol yng Nghymru.  Yn wir, dyma un o’r pum ymrwymiad pwysicaf yn ei Rhaglen Lywodraethu.

O 1 Ebrill 2012 ymlaen, bydd 165 o bobl yn gweithio fel Swyddogion Cymorth Cymunedol neu wrthi’n cael eu hyfforddi.  Y nod yw recriwtio, hyfforddi a rhoi swydd i bob un o’r 500 Swyddog Cymorth Cymunedol erbyn mis Medi 2013.

Wrth fynd ar batrôl cafodd y Gweinidog gyfle i sgwrsio ag aelodau o’r gymuned i weld sut mae’r Swyddogion Cymorth Cymunedol yn dod yn rhan o’u hardaloedd ac yn cysylltu â mudiadau cymunedol er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Rwy’n falch o weld y camau a gymerwyd i wireddu ein hymrwymiad i benodi 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol newydd yn sgil cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru ac Awdurdodau Heddlu Cymru. 

"Ni fydd y Swyddogion Cymorth Cymunedol yma’n cymryd lle swyddogion yr heddlu â gwarant.  Fe fyddan nhw’n ychwanegiad gwerthfawr ac amlwg i adnoddau presennol yr heddlu wrth iddyn nhw weithio gyda thrigolion a mudiadau cymunedol lleol i wella pethau i’r rheini y mae trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio ar eu bywydau.

"Yn ogystal â chyfarfod Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn y Rhyl heddiw, rwyf wedi cyfarfod recriwtiaid newydd mewn rhannau eraill o Gymru sydd yn patrolio’r strydoedd erbyn hyn, ac mae eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd wedi creu argraff fawr arna i.  Rwy’n gobeithio gallu cyfarfod mwy o Swyddogion Cymorth Cymunedol wrth iddyn nhw gael eu hyfforddi a dechrau gweithio yn eu cymunedau."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Swyddogion Cymorth Cymunedol Llywodraeth Cymru

Tagiau

Tai a chymunedau 23 Ebrill 2012 Programme for Government - Safer Communities Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

News by date

 
Mehefin 2013
M T W T F S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
Follow us on