Roedd y Gweinidog yn ymweld â gorsaf Bad Achub y Barri lle mae Ambiwlans Sant Ioan ac Urdd Sant Ioan wedi cael swm o £58,000 tuag at brosiect adnewyddu a fydd yn cynnwys cegin newydd, cawod, ystafell hyfforddi ac ystafell cymorth cyntaf yn yr adeilad y maent yn ei rannu gyda Chlwb Syrffio ac Achub Bywyd Bae Whitmore.
Ymhlith y prosiectau eraill a fydd yn cael cyllid y mae:
- Parc Pencoetre, sydd wedi cael £200,000 ar gyfer gwelliannau, gan gynnwys troi pwll padlo yn bad sblasio, ac adnewyddu’r man chwarae a’r goleuadau. Ymgynghorwyd â Bwrdd Trigolion Gibbonsdown wrth fynd ati i ddatblygu’r prosiect.
- Cwch sy’n cynnig mynediad i gadeiriau olwyn ar gyfer Clwb Hwylio’r Barri ar y Knap er mwyn i bobl ag anableddau gael profiad o hwylio. Rhoddwyd swm o £22,500 ar gyfer y prosiect hwn.
- Llawr synhwyraidd rhyngweithiol symudol sy’n creu delweddau golau a sain cyffrous, ac sy’n cynnwys system synhwyro symudiadau, ar gyfer pobl ag anableddau difrifol. Nod y prosiect hwn, sydd wedi cael swm o £9,500, yw annog pobl i symud er mwyn tynhau’r cyhyrau a symbylu’r meddwl er mwyn gwella’r cof, dealltwriaeth, a sgiliau achos ac effaith.
- Gardd gymunedol ar Lannau’r Barri, sydd wedi cael £17,000
- Estyniad i adeilad Clwb Rygbi’r Barri, sydd wedi cael £80,391 er mwyn caniatáu i’r clwb gwrdd â’r galw yn y gymuned leol am gyfleusterau cymunedol.
Mae dau brosiect arall wedi cael cyfanswm o £126,500 mewn egwyddor, ar yr amod eu bod yn cadarnhau iddynt sicrhau arian cyfatebol.
Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd y Gweinidog:
"Dw i’n falch iawn o gael cyhoeddi’r cyllid hwn ar gyfer cynifer o brosiectau gwerth chweil yn y Barri. Mae amrywiaeth y prosiectau, o ran eu lleoliad ac o ran eu natur, yn dangos cymaint sydd gan y Barri i’w gynnig, a sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn cael y gorau o adnoddau’r ardal.
"Mae gorsaf bad Achub y Barri yn enghraifft wych o sut mae pobl leol a phobl y tu hwnt i’r ardal leol yn elwa ar y cyllid a ddarperir ar gyfer Ardaloedd Adfywio. Bydd cyfleusterau cymunedol gwell o lawer gan Ambiwlans Sant Ioan a chan Glwb Syrffio ac Achub Bywyd Bae Whitmore ar gyfer eu gweithgareddau hyfforddi a’u gweithgareddau cymunedol, a bydd y gwell cyfleusterau cymorth cyntaf o fudd i bobl sy’n ymweld ag Ynys y Barri, os bydd angen cyfleusterau o’r fath arnyn nhw."











