Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Rheoliadau newydd er mwyn datrys anghydfodau am gartrefi mewn parciau

Heddiw, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ar reoliadau newydd a fydd yn golygu y bydd yn rhatach ac yn haws datrys anghydfodau sy’n codi rhwng pobl sy’n byw mewn cartrefi symudol a pherchenogion safleoedd.
Dydd Mawrth 20 Mawrth 2012

Gosodwyd Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012 gan Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth. Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu mai’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl fydd yn datrys anghydfodau yn y dyfodol yn lle’r Llysoedd Sirol neu yn lle bod angen dilyn prosesau cymrodeddu. Y Tribiwnlys Eiddo Preswyl sy’n gyfrifol am ddelio ag anghydfodau yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd.

Dywedodd:

"Dw i’n falch iawn bod y Gorchymyn wedi’i basio. Ers peth amser bellach, mae pobl wedi bod o’r farn bod y dulliau presennol o ddelio ag anghydfodau yn golygu ei bod yn anodd i bobl gael cyfiawnder. Mae’r dulliau sydd ar gael ar hyn o bryd yn gostus, mae’r trafodion yn ffurfiol ac mae cryn oedi’n gysylltiedig â phrosesau cymrodeddu neu wrandawiadau mewn llysoedd.

"Bellach, tribiwnlys anffurfiol a chost isel fydd yn delio ag anghydfodau. Mae tribiwnlysoedd o’r fath yn cael eu defnyddio eisoes mewn rhannau eraill o’r farchnad tai preifat. Dw i’n siŵr y bydd pobl sy’n byw mewn cartrefi parciau yng Nghymru yn croesawu’r newyddion yma. Pobl wedi ymddeol yw llawer ohonyn nhw ac maen nhw wedi dewis byw yn y math yma o lety er mwyn iddyn nhw fedru mwynhau’r holl fanteision sy’n gysylltiedig â bod wedi ymddeol."

Nid yw’r Gorchymyn yn cynnwys safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan nad yw’r rhain wedi’u cynnwys yn y diffiniad o ‘safleoedd gwarchodedig’. Mae ymrwymiad yn ‘Teithio at Ddyfodol Gwell, Fframwaith Gweithredu ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr’ i wneud y ddeddfwriaeth honno. Caiff ymgynghoriad llawn ei gynnal er mwyn penderfynu pwy ddylai fod ag awdurdodaeth i ymdrin ag anghydfodau yn ymwneud â Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw ar safleoedd sy’n eiddo i awdurdodau lleol. Gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, mae’n bosibl y bydd angen diwygio’r rheoliadau er mwyn cynnwys y safleoedd hynny.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Tai

Tagiau

Tai a chymunedau 20 Mawrth 2012 Tai Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2012
Ll M M I G S S
<< Mai   Gor >>
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28 29 30  
I'n dilyn ni trowch i