Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn Beirniadu Cwmnïau Benthyciadau Diwrnod Cyflog

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, wedi beirniadu cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog a benthycwyr arian sy’n codi cyfraddau llog uchel am dargedu pobl sy’n agored i niwed neu sydd ar incymau penodol neu fach.
Dydd Gwener 24 Chwefror 2012

Wrth siarad â Fforwm yr Undebau Credyd yn Wrecsam, dywedodd y Gweinidog bod Llywodraeth Cymru yn helpu undebau credyd i hybu eu gwasanaethau’n ehangach fel bod pobl yn ymwybodol bod dulliau amgen ar gael sy’n fwy fforddiadwy na benthyg arian ar log uchel.

Dywedodd y Gweinidog fod yr ymgyrch hysbysebion teledu diweddar a gomisiynwyd gan undebau credyd Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi codi ymwybyddiaeth o’r mater yn newyddion da.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae hysbysebion cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog yn ddidrugaredd.  Maent yn ceisio elwa ar bobl sydd ar incwm isel, teuluoedd sy’n ymdrechu i gadw dau ben llinyn ynghyd a phobl sy’n cael eu gwrthod gan fanciau’r stryd fawr.  

"Bydd ymgyrch hysbysebu gan Undeb Credyd Cymru yn cael ei darlledu rhwng rhaglenni teledu oriau brig poblogaidd fel The Jeremy Kyle Show a Loose Women yr un pryd â hysbysebion gan gwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog.  Y gobaith yw ceisio cyrraedd pobl sydd o bosibl yn ddi-waith ac sydd ddim mewn sefyllfa i allu ad-dalu cyfraddau llog uchel.  

"Rwy’n gobeithio y bydd yr ymgyrch yn helpu i godi proffil Undebau Credyd Cymru ac yn helpu i weld diwedd ar gwmnïau yn cymryd mantais ar bobl sydd angen cymorth ariannol.  Yn lle ateb y broblem, mae’r cwmnïau hyn yn rhoi pobl dros eu pennau mewn dyled.    

"Ers mis Ebrill 2009, mae Undebau Credyd Cymru wedi helpu dros 9,000 o bobl drwy gynnig gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau ariannol sy’n fwy fforddiadwy na benthyciwr stepen y drws.  Ar ôl yr ymgyrch, rwy’n gobeithio y bydd mwy o bobl yn manteisio ar wasanaethau’r undebau credyd.

Ychwanegodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ddarparu Cynllun Gweithredu Undebau Credyd er mwyn eu helpu i oroesi ac i fod yn fwy cynaliadwy.  Byddant yn gwneud hyn trwy wella’r dulliau llywodraethu a’r trefniadau ar gyfer cynllunio busnes a gwella’r hyfforddiant sydd ar gael i gyfarwyddwyr, staff a gwirfoddolwyr.

Dywedodd:  

"Gyda’r cynllun hwn a'r cyllid sydd ar gael trwy’r prosiect Mynediad at Wasanaethau Ariannol trwy Undebau Credyd, byddwn yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol tuag at sicrhau bod Undebau Credyd Cymru yn sefydliadau dilys a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Undebau credyd

Tagiau

Tai a chymunedau 24 Chwefror 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2012
Ll M M I G S S
<< Ebr   Meh >>
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
I'n dilyn ni trowch i