Cafodd y Gweinidog gyfle i gyfarfod a sgwrsio ag aelodau o dîm Cyffordd Llandudno, a ffurfiwyd gan staff Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag Ymatebwyr Cyntaf o dimau Llandudno a Bae Colwyn.
Gwirfoddolwyr yw Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned sy’n cael eu hyfforddi gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i roi cymorth cyntaf sylfaenol, defnyddio diffibriliwr a rhoi therapi ocsigen. Maen nhw’n ymateb i alwadau brys 999 yn eu hardaloedd, ochr yn ochr â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Fis Tachwedd y llynedd y sefydlwyd tîm Cyffordd Llandudno, sydd wedi’i leoli yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn y dref. Chwe swyddog oedd yn perthyn i’r tîm ar y dechrau, ond yn ystod y mis diwethaf mae’r nifer wedi cynyddu i ddeg. Gan eu bod nhw wedi cael ail ddiffribiliwr yn ddiweddar, mae yna bellach ddau dîm ar waith yn y swyddfa.
Ffurfiwyd Tîm Ymatebwyr Cyntaf Llandudno a Bae Colwyn dros bedair blynedd yn ôl.
Dywedodd Lesley Griffiths y Gweinidog Iechyd:
“Mae’n hanfodol bwysig fod gennym dimau Ymatebwyr Cyntaf yn ein cymunedau.
“Yn aml iawn, y gwirfoddolwyr yma yw’r cyntaf i gyrraedd pan fydd claf mewn angen, ac maen nhw’n rhoi triniaeth sy’n achub bywydau cyn i’r ambiwlans gyrraedd, gan gynyddu siawns y claf o oroesi.
“Mae gwrando ar hanesion y timau yma heddiw wedi codi fy nghalon. Mae’n amlwg eu bod nhw’n gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl yn y gymdogaeth.”
Dywedodd Elwyn Price-Morris, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:
"Mae Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn bartner pwysig a gwerthfawr i Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Ochr yn ochr â staff rheng flaen y gwasanaeth ambiwlans, maen nhw’n gwneud gwaith hollbwysig yn sicrhau bod cleifion yn derbyn cymorth yn gyflym ac yn effeithlon.
"Maen nhw’n hanfodol er mwyn gwella’r “gadwyn oroesi”. Pan fydd bywyd claf yn y fantol, mae’r rhagolygon yn well o lawer os gall fanteisio ar eu sgiliau achub bywydau ar y cyfle cynharaf.
"Rydyn ni’n dal i annog timau lleol i ddatblygu er mwyn helpu cymunedau lleol i ddelio ag argyfyngau."
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi hyfforddi rhyw 1,500 o bobl i fod yn Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned.











