Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Canmol llinell gymorth iechyd ar waith rhad-ac-am-ddim

Mae cyfarwyddwr yr elusen iechyd meddwl, Mind Cymru, wedi canmol gwasanaeth cyfrinachol rhad-ac-am-ddim sy’n cynnig cyngor ar iechyd meddwl, corfforol a galwedigaethol i fusnesau bach, mudiadau a’u cyflogeion.
Dydd Iau 06 Medi 2012

Mae Llinell Gymorth Iechyd ar Waith Cymru, rhan o raglen Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru, yn cael ei hariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Lindsay Foyster, cyfarwyddwr Mind Cymru, mae Llinell Gymorth Iechyd ar Waith Cymru yn cyflawni rôl bwysig mewn cyfnod o ddirywiad economaidd.

“Mae problemau iechyd meddwl, gan gynnwys gorbryder, iselder a phwysau heb reolaeth, yn effeithio ar un o bob chwech o weithwyr Prydain bob blwyddyn,“eglurodd Lindsay Foyster.  “Gall problemau daro unrhyw un, mewn unrhyw faes, ac ry’n ni’n ymwybodol bod llawer o bobl yn cael pethau’n anodd yn y gwaith o ganlyniad i bwysau ychwanegol yn sgîl yr hinsawdd economaidd.  

“Mae Llinell Gymorth Iechyd ar Waith Cymru yn ffordd hawdd i gyflogwyr a chyflogeion gael cefnogaeth i’w helpu i aros yn iach ac mewn gwaith.  Gorau po fwyaf y gallwn annog pobl i siarad am iechyd meddwl, yn y gwaith, yn y cartref ac yn ein cymunedau, er mwyn herio’r stigma a’r rhagfarn sydd ynghlwm â phroblemau iechyd meddwl."

Meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Lesley Griffiths AC,

“Mae gweithlu hapus, iachus a chynhyrchiol yn cyfrannu at ymdrechion ehangach i wella iechyd pobl o oedran gweithio.  Byddwn i’n annog cyflogwyr a chyflogeion i ffonio Llinell Gymorth Iechyd ar Waith Cymru os oes angen cyngor arnynt ar unrhyw achos iechyd yn y gweithle.”  

Mae cysylltiadau clir rhwng problemau iechyd meddwl ac anhwylderau’r cyhyrau a’r esgyrn, ac mae’r llinell gymorth hefyd yn cynnig cyngor yn y maes hwn.  Mae’n bwysig adrodd ar symptomau yn gynnar, er mwyn cyflymu triniaeth a gwellhad.

Meddai Philippa Ford, Swyddog Polisi y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yng Nghymru,

“Yn ein hymgyrch Move for Health eleni, fe wnaethon ni ganolbwyntio ar iechyd meddwl mewn perthynas â chadw’n iach yn gorfforol.  Mae gormod o bwysau yn gallu creu straen, ac mae dioddef straen am gyfnodau estynedig yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl ac â phroblemau corfforol.  

“Mae ffisiotherapyddion yn gwybod bod cyhyrau’r cefn a’r gwddf yn sensitif dros ben i effeithiau straen, ac yn gallu achosi poen ac weithiau pen tost hefyd.  Mae hyn i gyd yn gallu’n hatal rhag gweithio’n effeithiol, ac felly mae cael cefnogaeth a thriniaeth ar gyfer problemau’r cyhyrau a’r esgyrn yn bwysig iawn.”

Fe wnaeth Cymdeithas Tai Sir Fynwy sicrhau Safon Iechyd Corfforaethol Aur Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni, fel cydnabyddiaeth o’i gwaith i warchod a gwella iechyd a lles eu staff.  

Meddai’r rheolwr adnoddau dynol, Karen Williams,

“Rydyn ni’n ymwybodol bod pwysau gwaith beunyddiol yn gallu effeithio arnom ni ar unrhyw adeg, ac mae symptomau’n dod i’r amlwg mewn sawl ffordd, gan gynnwys anhwylderau’r cyhyrau a’r esgyrn.  

“Mae ein systemau yn amlygu hyn i’n rheolwyr, ac yn gosod gofynion arnynt i gynnal asesiadau risg straen.  Rydyn ni’n darparu sesiynau codi ymwybyddiaeth i staff ar faterion iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, ystum corff a phoen cefn, a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.  Rydyn ni hefyd yn credu mewn dod â hwyl i’r gwaith, ac rydyn ni wedi cynnal sawl digwyddiad, gan gynnwys ‘Diwrnod Haf’ i ddathlu ein haf gwlyb gyda gweithgareddau mabolgampau.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Mind Cymru

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 06 Medi 2012 Iechyd ar waith Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i