Yn Adroddiad Gweithgarwch Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG (NHSBT) 2011-12, nodir y ffigurau ar gyfer rhoi organau a thrawsblannu organau ledled y DU, megis y ganran o’r boblogaeth ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau a nifer y rhoddwyr i bob miliwn o’r boblogaeth.
Yng Nghymru yn 2011-12, cafwyd 240 o drawsblaniadau ar bobl sy’n byw yng Nghymru, o’i gymharu â 203 yn y flwyddyn flaenorol.
Rhoddwyd 67 o roddion o organau gan bobl a fu farw yn ysbytai Cymru o’i gymharu â 66 yn 2010-11 (ac o’r rhain roedd 65, ar gyfe pob un o’r blynyddoedd hyn, yn byw yng Nghymru).
Er hynny, cafwyd ychydig o ostyngiad yn nifer yr organau a roddwyd gan bobl oedd yn byw yng Nghymru o 83 yn 2010/11 i 75 yn 2011/12. Y rheswm dros hyn oedd bod llai o bobl oedd yn byw yng Nghymru y llynedd yn rhoi organu mewn ysbytai yn Lloegr.
Roedd y ganran o bobl yng Nghymru ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau'r un peth ar 31 Mawrth 2012 â’r flwyddyn flaenorol, sef 31 y cant.
Dengys ystadegau eraill o NHSBT fod nifer y bobl sy’n aros am drawsblaniad hefyd wedi gostwng, o 309 yn 2010/11 i 284 yn 2011/12. Bu farw 41 o bobl tra oeddent yn aros am drawsblaniad yng Nghymru, sef gostyngiad o 10 ers y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru:
“Mae yna newyddion i’w croesawu yn adroddiad NHSBT heddiw, megis y cynnydd yn nifer y trawsblaniadau ar bobl sy’n byw yng Nghymru.
“Mae’r ganran o bobl ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau yng Nghymru, sef 31 y cant, yn parhau’n uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y DU, ac mae hyn yn galonogol hefyd.
“Ers 2007/08, cafwyd ymdrech fawr mewn ysbytai i gynyddu nifer yr organau a roddir gan bobl sydd wedi marw ledled Cymru, i newid ymarfer clinigol ac i roi’r cyfle i fwy o bobl roi eu horganau.
“Yn Adroddiad 2011/12 ceir manylion y duedd gyffredinol a pharhaus ar i fyny, o ran rhoi a thrawsblannu organau. Ein nod yw sicrhau twf o 50% yn yr organau a roddir gan bobl farw rhwng 2008 a 2013. A ninnau eisoes wedi sicrhau twf o 49% erbyn 2012 rydym yn rhagori ar ein targed yn hyn o beth.
“Er hynny, mae nifer y bobl yng Nghymru sy’n marw wrth aros am drawsblaniad yn dal yn rhy uchel a rhaid i ni barhau i wneud ein gorau glas i gynyddu nifer y bobl sy’n rhoi organau. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno deddfwriaeth newydd ar roi organau a meinweoedd i Gymru.
"Er bod y gyfradd ganiatâd yn achos rhoi organau yng Nghymru’n dal yn well na chyfartaledd y DU, mae’n dal yn rhy isel ac mae modd priodoli hynny i raddau helaeth i’r ffaith nad yw pobl yn trafod eu dymuniadau gyda’u teuluoedd.
"Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r GOG i barhau i gynyddu nifer yr organau sy’n cael eu rhoi a’u trawsblannu.”











