Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Sgwrs letchwith, ond lleisiwch eich barn yn glir

Mae dyddiad cau’r ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar gydsynio i roi organau yn prysur agosáu.
Dydd Mawrth 21 Awst 2012
Roedd Donna yn dioddef o glefyd cynhenid y galon, ac er mawr dristwch bu farw yn 2010 yn disgwyl ei thrydydd trawsblaniad y galon
Az ac Donna Mansell
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i aelodau o’r cyhoedd a gweithwyr iechyd i leisio’u barn am y ddeddfwriaeth system feddal o optio allan cyn y dyddiad cau ar ddydd Llun, Medi’r 10fed 2012.

Y llynedd fe wnaeth 67 o bobl roddi eu horganau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu achub rhagor o fywydau drwy gynyddu’r ffigwr yma. Ar gyfartaledd, mae pob rhoddwr yn rhoi tair organ gan wneud gwahaniaeth anferth i fywydau’r derbynwyr.

Ychydig iawn o deuluoedd sy’n trafod y pwnc llosg hwn ac yn ymwybodol o ddymuniadau rhoi organau eu perthnasau. Heb os, mae’r mater yn destun sgwrs digon lletchwith i lawer un, ond mae’n un pwysig iawn yng nghyd-destun dewis personol a’i effaith ar roi.

Un person sydd wedi wynebu’r sefyllfa yma yw Az Mansell. Mae o’n benderfynol o newid yr hyn mae’n ei weld fel difaterwch ymhlith y cyhoedd tuag at roi organau. Mae o’n ddyn sy’n siarad o brofiad. Nid oedd Az wedi rhoi ei enw ar gofrestr rhoi organau'r GIG, er ei fod yn cytuno â’r egwyddor, nes iddo gyfarfod ei ddarpar wraig, Donna. Wedi iddo glywed am ei phroblemau iechyd difrifol aeth ati i gofrestru yn y fan a’r lle, mewn tafarn dros y ffôn.

Roedd Donna yn dioddef o glefyd cynhenid y galon, ac er mawr dristwch bu farw yn 2010 yn disgwyl ei thrydydd trawsblaniad y galon. Roedd Donna yn berson hynod o fywiog gydag agwedd bositif tuag at fywyd, yn byw bywyd i’r eithaf ac yn helpu a chynghori pobl oedd yn mynd drwy brofiadau tebyg wrth ddioddef ei hun. Roedd hi’n ymgyrchu’n gyson dros roi organau ac yn fam a gwraig arbennig iawn. Yn dilyn ei marwolaeth, fe benderfynodd nifer o’u theulu a’i ffrindiau roi eu henwau ar y gofrestr rhoddi organau.

Esbonia Az:

“Mae’r nifer o bobl sy’n cael llawdriniaethau trawsblannu yn eitha’ anhygoel, gyda rhai’n fwy llwyddiannus nag eraill, ond ar y cyfan mae’r derbynwyr yn ddiolchgar am gael ail gyfle ar fywyd, ac mae hynny’n wych. Yn ddiweddar fe es i i fyny’r Wyddfa gyda’m ffrind, Rhys, sydd wedi cael trawsblaniad calon lwyddiannus, a ro’n i’n cael trafferth dal i fyny gydag o!

“Rydw i’n cefnogi deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru ar system feddal o optio allan gan fy mod yn credu bod camau o’r fath yn hanfodol os ydym am wella cyfleoedd bywyd i ragor o bobl sy’n disgwyl trawsblaniad organ, fel yr oedd Donna.

“Rwy’n gwybod nad ydi pawb yn cytuno gyda’r newidiadau hyn – gan gynnwys aelodau o’m teulu fy hun – ond mae llawer o hyn yn ganlyniad i ddiffyg gwybodaeth gywir, er fy mod i’n parchu eu dewis personol nhw.

“Mae rhai’n mynnu y bydd eu dewisiadau a’u hawliau yn cael eu cyfyngu gan y ddeddf newydd hon, ond y gwrthwyneb yw’r gwir. Bydd pobl yn gallu dewis yn glir os ydynt am roi neu beidio, ac mae’r ffaith mai Cymru yw’r genedl gyntaf ym Mhrydain i gyflwyno deddf o’r fath yn grêt.”

I gyd-fynd gyda’r ddeddfwriaeth arfaethedig darperir rhaglen gwybodaeth gyhoeddus ledled Cymru, i ddarparu’r holl wybodaeth fydd yn angenrheidiol i unigolyn wneud penderfyniad a datgan y penderfyniad hwnnw, drwy roi eu henw ar yr un gofrestr ar gyfer rhoi organau a meinweoedd yng Nghymru. Er hyn, mae gwneud y penderfyniad hwnnw’n hysbys i aelodau teulu yn bwysig fel eu bod nhw’n gwybod beth yw dymuniadau’r rhoddwr posib mewn amseroedd emosiynol a phan o dan straen. Fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd arfaethedig, os nad yw unigolyn wedi gwneud eu dymuniadau’n hysbys drwy gyfrwng y gofrestr, cymerir yn ganiataol eu bod yn fodlon i’w horganau a’u meinweoedd fod ar gael ar gyfer trawsblannu.

I unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad, dylid gwneud hynny cyn 10 Medi 2012.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Drafft

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 21 Awst 2012 Cymru iachach Gwella iechyd Y rhaglen ddeddfwriaethol Programme for Government - Healthcare Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i