Mae cyfuniad o fwy o alwadau 999 a mwy o bobl yn mynd i Adrannau Achosion Brys wedi creu pwysau ychwanegol yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf.
Mae GIG Cymru wedi rhyddhau manylion amryw o alwadau 999 amhriodol a wnaed i’r gwasanaeth ambiwlans yn ystod y misoedd diwethaf.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Menyw a alwodd 999 ar ôl i fochdew frathu ei bys.
- Dwy alwad 999 gan ddynion oedd â phen mawr ar ôl bod allan yn yfed y noson gynt.
- Pobl yn galw 999 yn y prynhawn ar ôl anafu eu hunain y noson gynt. Doedden nhw ddim wedi teimlo’r boen ar y pryd am eu bod o dan ddylanwad alcohol, a dim ond wrth i’r alcohol fynd o’u system roedden nhw wedi dechrau dioddef.
- Galwodd menyw 999 yn dweud ei bod wedi anafu ei llaw a’i bod yn gwaedu’n ddifrifol. Cyrhaeddodd criw’r ambiwlans a gweld mai’r gath oedd wedi cripio ei llaw yn ysgafn, a’i bod yn poeni y gallai gael ei heintio
- Roedd dyn wedi gweld ei feddyg teulu yn y bore ac wedi cael eli i’w rwbio ar ei gefn. Galwodd 999 yn nes ymlaen a dweud bod ganddo broblem gyda’i gefn. Wrth ei weld yn ateb y drws, gofynnodd criw’r ambiwlans, ‘roedden ni’n meddwl fod gennych chi broblem gyda’ch cefn?’ Atebodd y dyn, ‘Oes, mae gen i. Does gen i neb i rwbio’r eli yma ar fy nghefn!’
- Galwodd aelod o’r cyhoedd 999 o dafarn yng nghanol Caerdydd gan ddweud fod ganddo boenau difrifol yn ei stumog. Aeth criw’r ambiwlans ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru. Ar ôl cyrraedd yr adran damweiniau ac achosion brys, neidiodd allan a rhedeg ar wib i’r pellter gan ddweud ‘diolch am y lifft mêt’ dros ei ysgwydd!
Eglurodd Dr Chris Jones nad yw pawb sy’n mynd i adrannau achosion brys neu’n galw 999 yn achos brys mewn gwirionedd:
Dywedodd:
“Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn derbyn mwy a mwy o alwadau brys amhriodol. Dim ond mewn argyfwng meddygol difrifol y dylid galw 999, fel pan fo bywyd yn y fantol. Mae’r holl wasanaethau iechyd brys yn brysur iawn a dim ond os ydyn nhw wedi’u hanafu’n ddrwg neu’n ddifrifol wael y dylai pobl fynd i adrannau achosion brys.
“Gall cleifion helpu i leddfu’r pwysau ar y gwasanaethau brys, drwy wneud Dewis Doeth. Bydd hyn yn sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth orau, ac yn rhyddhau gwasanaethau brys prysur y GIG i helpu’r bobl sydd angen eu cymorth fwyaf.
"Rwy’n annog pobl sydd angen gofal gan y GIG ond sy’n ansicr pa wasanaeth i’w ddefnyddio, i ystyried defnyddio gwasanaethau eraill fel Galw Iechyd Cymru, yr ap Dewis Doeth newydd ar gyfer eu iPhone, gwasanaethau tu allan i oriau eu meddyg teulu neu fynd i’r fferyllfa leol er mwyn gofalu amdanyn nhw eu hunain yn eu cartrefi."











