Bydd y cyfleuster pwrpasol newydd hwn, sy’n werth £4.9 miliwn, yn darparu mwy o wasanaethau yn nes at gartrefi pobl, gan leihau’r angen i gleifion deithio y tu allan i’r ardal i ysbytai mawr. Fel canlyniad, bydd hefyd yn lleihau’r nifer o gleifion mewnol sy’n cael eu derbyn gan yr ysbytai mawr.
Mae’r gwaith adeiladu’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Gweinidog y bydd y ganolfan yn darparu’r union fath o wasanaethau y mae hi’n gobeithio y byddant ar gael i bawb ar hyd a lled Cymru yn y dyfodol.
Caiff y ganolfan ei hadeiladu ar safle blaenorol Cartref Gofal Brynhyfryd, a bydd yn dod â gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys a Chyngor Sir Powys ynghyd.
Dyma rai o’r gwasanaethau a gynigir gan y ganolfan:
- 12 ystafell en-suite newydd;
- Ehangu oriau nyrsys cymunedol fel eu bod yn gweithio gyda’r hwyr, er mwyn gallu cynnig mwy o gymorth yng nghartrefi pobl;
- Ffisiotherapi a therapi galwedigaethol a fydd yn helpu pobl i allu aros gartref ar ôl cael salwch;
- Modd o gael gafael ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn gyflymach ar gyfer pobl y mae angen cymorth ar frys arnyn nhw gartref;
- Gwasanaethau ‘hosbis yn y cartref’, gan gydweithio â sectorau eraill.
Meddai Lesley Griffiths:
“Mae Law yn Llaw at Iechyd, sef gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG, wedi’i seilio ar ddarparu mwy o wasanaethau cymunedol yn nes at gartrefi pobl, ar y cyd â chanolfannau ragoriaeth arbenigol, sy’n rhoi canlyniadau gwell i gleifion.
“Mae’r cyfleuster newydd yn Llanfair-ym-Muallt yn esiampl wych o’r cydweithredu gwell rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sydd hefyd yn un o nodau allweddol Law yn Llaw at Iechyd.
“Cafodd y ganolfan newydd ei datblygu yn dilyn trafodaethau â’r gymuned leol, ac mi fydd yn trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ardal. Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r ganolfan eto, pan fydd cleifion yn elwa o’r gwasanaethau gwell o lawer hyn.”
Yn ôl y Cynghorydd Rosemarie Harris, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Gwasanaethau i Oedolion yng Nghyngor Sir Powys:
“Rydyn ni’n falch iawn o’r cynnydd ardderchog yn natblygiad y prosiect arloesol hwn. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda yn ôl yr amserlen, a gobeithiwn weld y cyfleuster wrthi’n gweithio’n llawn erbyn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Mae gwaith y ganolfan yn brosiect blaenllaw i sir Powys, ac mae’r gwaith eisoes yn denu sylw mawr o rannau eraill o Gymru."











