Yn ystod ymweliad â Chlinig Deintyddol Park View yn Nhrelai, Caerdydd, lansiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths, Gynllun Cenedlaethol ar gyfer Iechyd y Geg yng Nghymru.
Mae’r Cynllun drafft yn cydweddu’n dda â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru a amlinellir yn Law yn Llaw at Iechyd, ac yn amlinellu’r agenda ar gyfer gwella iechyd y geg a lleihau anghydraddoldebau o ran iechyd y geg dros y pum mlynedd nesaf ac wedi hynny.
Dywedodd Lesley Griffiths:
“Mae iechyd y geg yn rhan annatod o iechyd cyffredinol ac mae atal afiechyd wrth wraidd y Cynllun drafft. Dim ond os yw’r gwasanaethau deintyddol a’r rhaglenni gwella iechyd y geg yn canolbwyntio ar ofal iechyd sylfaenol ac atal afiechyd y gellir osgoi’r ffactorau risg sy’n arwain at afiechyd y geg. Un o brif nodau’r Cynllun drafft fydd helpu pobl i gymryd cyfrifoldeb personol dros ofalu am iechyd y geg.”
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 12 Hydref 2012 ac mae’r ddogfen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Hefyd, cyhoeddodd y Gweinidog fod y ffioedd i gleifion am wasanaethau deintyddol yn codi. Bydd cwrs o driniaeth Band , sy’n cynnwys cyngor, archwiliadau pelydr-x, a digennu a llathru (scale & polish) yn codi 40c i £12.40. Bydd y ffi ar gyfer Band 2, sy’n cynnwys llenwadau, gwaith sianel y gwreiddyn neu dynnu’r dannedd, yn codi £1.20 i £40.20. Nid oes cynnydd i ffioedd y band uchaf, Band 3, sef £177.00.
Y cynnydd hwn o 2 y cant yw’r cyntaf ers 2006 a daw i rym o’r 1af o Fedi 2012. Bydd yr incwm ychwanegol yn sgil y cynnydd yn cael ei fuddsoddi mewn gwelliannau i wasanaethau deintyddol lleol y GIG.
Dywedodd Lesley Griffiths:
“Rydym wedi llwyddo i rewi’r ffioedd yng Nghymru am bum mlynedd sy’n golygu nad yw’r gost yn atal pobl rhag y cyfle gorau i gynnal iechyd y geg.
“Mae ffioedd deintyddol yn gyfraniad pwysig i gost gyffredinol y gwasanaethau deintyddol. Bydd y cynnydd bychan hwn yn golygu rhagor o adnoddau, a bydd pob ceiniog yn cael ei roi yn ôl i goffrau deintyddiaeth y GIG i helpu i wella gwasanaethau deintyddol yng Nghymru ymhellach. Rydym wedi ymrwymo yn ein Rhaglen Lywodraethu i wella’r mynediad i wasanaethau deintyddol lle ceir problemau lleol.
“Rydym yn cadw’r cynnydd hwn islaw chwyddiant a bydd y ffioedd yng Nghymru’n dal i fod yn is o lawer na’r rhai yn Lloegr, lle mae’r ffioedd wedi codi 11 y cant ers 2006.”
Ymysg y prif amcanion yn y Rhaglen Lywodraethu mae gwella mynediad i wasanaethau deintyddol lle ceir problemau lleol, atal iechyd y geg gwael a lleihau anghydraddoldebau drwy weithredu Cynllun Gwên i wella iechyd y geg ymysg plant.











