Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwahardd arddangos nwyddau tybaco yn amddiffyn pobl ifanc

Yn gynharach eleni, pasiwyd rheoliadau a oedd yn golygu y bydd angen i archfarchnadoedd gael gwared ar arddangosfeydd o sigaréts a nwyddau tybaco o fis Rhagfyr eleni. Rhaid i siopau llai o faint gydymffurfio â’r rheoliadau erbyn mis Ebrill 2015.
Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2012

Mae’r rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o fesurau. Cafodd yr olaf o’r rhain, y Rheoliadau Arddangos Prisiau, eu cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, y byddai’r rheoliadau’n helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag y niwed sy’n cael ei achosi gan smygu.

Mae rheoliadau Arddangos Prisiau heddiw yn nodi sut y gall siopau arddangos prisiau nwyddau tybaco heb hysbysebu’r nwyddau eu hunain. Bydd siopwyr yn gallu arddangos un rhestr brisiau yn y man gwerthu ond bydd rhestr brisiau arall hefyd ar gael i’w dangos i gwsmeriaid. Bydd modd gweld y rhestr hon yn unig ar gais y cwmser pan fydd yn holi am ragor o fanylion a gwybodaeth am y nwyddau tybaco sydd ar gael.

Dywedodd Lesley Griffiths:

"Smygu yw’r achos mwyaf o salwch, anabledd a marwolaeth gynamserol yng Nghymru y mae modd ei atal, ac mae’n gyfrifol am fwy na 5,600 o farwolaethau bob blwyddyn.

"Yn ôl tystiolaeth gall arddangos nwyddau tybaco mewn siopau annog pobl ifanc i smygu a thanseilio penderfyniad oedolion sy’n smygwyr ac yn ceisio rhoi’r gorau iddi.

"Mae’r rheoliadau sy’n cael eu pasio heddiw yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi’u hanelu at gael gwared ar arddangos a hyrwyddo nwyddau tybaco o’r siopau.

"Ein nod ni yw lleihau cyfraddau smygu ymysg oedolion i 16% erbyn 2020. Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco yn cynnwys mesurau penodol i rwystro pobl rhag dechrau smygu ac annog smygwyr i roi’r gorau iddi. Mae’r rhain yn cynnwys ystod o raglenni addysgol a chefnogol fel y rhaglen o gefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer pobl ifanc, Assist, a’r rhaglen rhoi’r gorau i smygu, Dim Smygu Cymru."

Bydd canllawiau ar gael gwared ar arddangos a hybu tybaco yn y man gwerthu yn cael eu rhoi i Swyddogion Gorfodi Lleol a busnesau cyn i’r rheoliadau ddod i rym. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal ymgyrch wybodaeth i’r cyhoedd ym mis Tachwedd er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o sut y bydd y trefniadau newydd yn gweithio.

Mae siopau tybaco arbenigol wedi’u heithrio rhag y rheoliadau arddangos tybaco y tu mewn i’w siopau, ond rhaid iddynt wneud yn siŵr nad oes modd gweld nwyddau tybaco’n cael eu harddangos o’r tu allan drwy unrhyw ffenestri.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ysmygu

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 18 Gorffennaf 2012 Cymru iachach Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i