"Rydyn ni'n treulio llawer iawn o'n hamser yn ein cartrefi: hyd at 70%, ac mae'r ffigur hwn yn uwch i blant ifanc a phobl h?n.
"Rwyf am weld cartrefi yng Nghymru yn amgylcheddau sy'n gwella ein hiechyd yn hytrach na'i niweidio. Gall nifer o ffactorau effeithio ar ein hiechyd yn y cartref: tlodi, mwg ail-law, tlodi tanwydd ac arbed ynni, lleithder, hylendid bwyd, bygythiad o drosedd, fel cam-drin domestig neu ladrad, neu hyd yn oed ofn troseddau.
"Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ymdrin â'r holl faterion hyn; hoffwn weld y cyfan yn dod ynghyd mewn un strategaeth ar gyfer cartrefi iach, a chydgysylltu'r gweithredu ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Credaf fod angen inni fynd i'r afael â smygu yn y cartref fel mater o flaenoriaeth."
"Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Bil Tai, a hoffwn weld y cysyniad o'r cartref fel lle i wella iechyd wrth wraidd y gwaith hwn."
Bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ymweld â Chaerfyrddin, i gyfarfod â phobl sy'n elwa o raglen bwysig gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i adfywio tai cymdeithasol. Mae'r GIG yn gweithio gyda'r Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd i fesur y manteision i iechyd yn y tymor byr a'r tymor hirach.
Bydd y rhaglen yn sicrhau bod y tai yn cyrraedd y safon ansawdd cenedlaethol, gan wella diogelwch, gan gynnwys cloeon a goleuadau, ceginau a stafelloedd ymolchi, gosod toiledau lawr llawr, darparu ffenestri gwydr dwbl, inswleiddio thermol a sicrhau bod llwybrau'r ardd mewn cyflwr da.
Gan ddefnyddio data anhysbys, sy'n cynnwys derbyniadau i'r ysbyty am gyflyrau penodedig, ymgynghoriadau â meddygon teulu a phresgripsiynau, bydd yr astudiaeth yn cymharu iechyd y preswylwyr cyn ac ar ôl y gwelliannau. Caiff y data eu cymharu â phreswylwyr mewn tai cymdeithasol mewn mannau eraill o Gymru, er mwyn dadansoddi sut mae pob gwelliant, neu gyfuniad o welliannau, yn effeithio ar iechyd y preswylwyr.
"Rwy'n awyddus i weld sut mae'r prosiect yn gwneud gwahaniaeth, a pha wersi sydd i'w dysgu er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru. Mae hwn yn fater o bwys y mae angen gweithredu arno ar draws llywodraeth, awdurdodau lleol a'r trydydd sector, nid yn unig yn y GIG.
"Erbyn 2035, bydd y boblogaeth dros 85 oed fwy na ddwywaith yn fwy na ffigurau 2010. Bydd hyn yn effeithio ar y driniaeth y bydd ei hangen ar bobl oddi wrth y GIG, a hefyd yr angen i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol yn y gymuned.
"Mae mentrau fel Rhaglen Eiddilwch Gwent a Thîm Ardal Dwyrain Caerdydd yn treialu gweithio mewn partneriaeth integredig rhwng y GIG, cyrff trydydd sector ac Awdurdodau Lleol. Maent yn gweithio ar ofal ataliol, gan asesu risg cwympiadau, lleihau hyd arhosiad mewn ysbyty, ac yn canolbwyntio ar gynorthwyo pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain. Bydd angen gweld mwy o'r math hwn o weithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi cymorth i bobl wrth iddynt dyfu'n h?n yng Nghymru."











