Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cychwyn Iach Cymru yn lansio adduned haf di-fwg

Ar drothwy gwyliau’r haf, mae Cychwyn Iach Cymru yn galw ar rieni i beidio â smygu yn eu ceir er mwyn diogelu eu teuluoedd rhag peryglon mwg ail-law.
Dydd Gwener 06 Gorffennaf 2012
  • Awgrymiadau ar sut i Wneud Adduned Haf Cychwyn Iach Cymru Os oes rhaid ichi smygu (a chofiwn fod help ar gael gan Dim Smygu Cymru os ydych am roi’r gorau iddi) Trefnwch ddyddiad pendant ar gyfer rhoi’r gorau i smygu yn eich car, a chadwch ato Ewch allan i smygu bob amser, ymhell o gyrraedd pawb arall Dylech gael gwared ar y taniwr sigaréts o’r car a chlirio’r blychau llwch er mwyn osgoi’r demtasiwn I wneud Adduned Haf, neu ddangos eich cefnogaeth i ymgyrch Cychwyn Iach Cymru, llofnodwch ar-lein

Mae Adduned Haf Cychwyn Iach Cymru yn cael ei lansio cyn i wyliau haf yr ysgolion ddechrau, pan fydd teuluoedd yn paratoi i dreulio mwy o amser gyda’i gilydd. Mae’r Adduned yn canolbwyntio ar ymrwymiad rhieni i gadw’u ceir yn ddi-fwg gan fod anadlu cemegolion gwenwynig yn rhoi eu plant mewn perygl. Bydd Cychwyn Iach Cymru yn mynd â’r Adduned allan i’r cymunedau yn ystod y gwyliau fel rhan o’i sioe deithiol dros yr haf.

Ymgyrch gan Lywodraeth Cymru yw Cychwyn Iach Cymru i leihau cysylltiad plant â mwg ail-law drwy godi ymwybyddiaeth o’r peryglon sy’n gysylltiedig â hyn. Mae mwg sigaréts yn cynyddu’r risg i blant o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol fel y fogfa a phroblemau anadlu, a haint yn y clustiau, ac mae hyd yn oed wedi’i gysylltu ag achosi marwolaeth yn y crud a llid yr ymennydd.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell:

"Mae mwg ail-law yn cynnwys mwy na 4,000 o gemegolion a all niweidio iechyd plant. Mae mwy nag 80 y cant o fwg sigaréts yn anweledig ac ni allwch ei arogli - felly mae’r perygl yn waeth na beth mae pobl yn ei feddwl. Mae’r car yn lle peryglus iawn i smygu ynddo gan ei fod yn lle bach a chyfyng. Mae’r gwenwyn yn y mwg sigaréts yn aros yn y car am oriau ac mae’n dal i fod yn risg hyd yn oed os mai dim ond pan na fydd y plant yn y car y byddwch chi’n smygu. Gall agor y ffenest wneud pethau’n waeth drwy chwythu’r mwg gwenwynig i gefn y car lle mae’r plant yn eistedd."

"Mae gwyliau’r haf yn adeg pan fydd teuluoedd yn draddodiadol yn treulio llawer o amser yng nghwmni ei gilydd; boed hynny’n mynd am dripiau diwrnod neu deithio ar wyliau. Ond er bod teuluoedd o bosib yn mynd yn y car yn amlach, nid ydym am weld cynnydd yng nghysylltiad plant â mwg ail-law. Dyna pam ein bod yn annog pobl yng Nghymru i wneud Adduned Haf Cychwyn Iach; gan sicrhau cychwyn iach iddyn nhw eu hunain a’u teulu a chadw’u ceir yn ddi-fwg.

"Dydyn ni ddim eisiau dweud wrth rieni beth y dylen nhw ei wneud, ond yn syml rhoi’r ffeithiau moel iddyn nhw am smygu a pherygl smygu i blant. Credwn fod rhieni am amddiffyn eu plant, ac unwaith maen nhw’n hollol ymwybodol o’r peryglon, byddant yn dewis peidio â smygu yn eu cwmni nhw."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ysmygu

Gwefannau

Cychwyn Iach Cymru Dim Smygu Cymru

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 06 Gorffennaf 2012 Cymru iachach Gwella iechyd Programme for Government - Healthcare Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Gorffennaf 2012
Ll M M I G S S
<< Meh   Aws >>
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30 31          
I'n dilyn ni trowch i