Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gymdeithas Strôc yn galw am sylwadau ar gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru

Dim ond un mis sydd ar ôl gan bobl i gyflwyno sylwadau ar gynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion strôc yn cael profiad heb ei ail yng Nghymru - ac mae’r Gymdeithas Strôc yn annog pobl i ddweud eu dweud.
Dydd Gwener 29 Mehefin 2012

Cynlluniwyd “Gyda’n Gilydd yn erbyn Strôc” er mwyn sicrhau bod cyfraddau strôc yng Nghymru ymysg yr isaf yn Ewrop erbyn 2016.

Dywedodd Ana Palazon, Cyfarwyddwr Cymdeithas Strôc Cymru:

“Gall strôc daro unrhyw un o unrhyw oedran. Er bod y rhan fwyaf o’r achosion yn digwydd i bobl dros 65 oed, gall daro pobl iau, hyd yn oed plant a babanod. Mae’n ofnadwy o bwysig bod gennym y prosesau iawn ar gyfer adnabod strôc yn y lle cyntaf, ac ar gyfer y gofal a’r adferiad adweithiol.

“Dim ond deg munud mae’n ei gymryd i ddarllen yr ymgynghoriad a chyflwyno eich sylwadau i Lywodraeth Cymru. Mynnwch gyfle i gael dweud eich dweud ar ddyfodol gofal strôc yng Nghymru.”

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae hon yn ddogfen hanfodol, sy’n esbonio’r hyn sydd wedi’i gyflawni yn y blynyddoedd diweddar, ond hefyd yn egluro’r uchelgais ehangach i wella gwasanaethau i ddioddefwyr neu’r rhai mewn perygl o gael strôc, yn ystod y blynyddoedd nesaf.

“Gyda’n gilydd mae’n rhaid inni wneud mwy i atal achosion o strôc. Mae’n rhaid i unigolion chwarae eu rhan drwy ofalu am eu hiechyd eu hunain. Mae gan ffordd o fyw pobl effaith arwyddocaol ar y cyfraddau strôc ac mae’n hanfodol ein bod yn gostwng lefelau gordewdra, smygu a chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.  

“Rydyn ni am ganolbwyntio ar atal strôc lle bo’n bosib, yn ogystal â chael diagnosis cyflymach a’r driniaeth orau bosib. Rydyn ni am sicrhau cyfraddau goroesi sydd gyda’r gorau yn Ewrop a gweddill y byd, gyda phrofiadau heb eu hail i’r claf.”

“Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan strôc i ddarllen ein hymgynghoriad a rhoi eu barn i ni.”

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 2 Awst

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ymgynghoriad ar y ddogfen ddrafft ymateb i'r her: 'Gyda’n gilydd yn erbyn strôc' cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer y GIG hyd at 2016

Gwefannau

Stroke Association

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 29 Mehefin 2012 Cymru iachach Gwella iechyd Programme for Government - Healthcare Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i