Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Mae’n iawn i ofalwyr gael gwyliau

Daeth rheoliadau i rym heddiw sy’n dweud bod rhaid i awdurdodau lleol ganiatáu i bobl sy’n gofalu am blant anabl gymryd y gwyliau byr y mae ganddyn nhw hawl i’w cymryd, yn ôl y gyfraith.
Dydd Llun 25 Mehefin 2012

Nid dim ond cyfle i’r rhieni neu’r gofalwyr gael seibiant yw’r gwyliau byr, a wnaed yn statudol yn Neddf Plant a Phobl Ifanc 2008. Maen nhw hefyd yn gyfle i blant a phobl ifanc anabl dreulio amser gyda phlant eraill sydd yr un oed â nhw.

Nid fel rhywbeth i droi ato pan fydd pethau wedi mynd i’r pen y bwriadwyd y gwyliau. Dylent fod yn rhan o becyn mwy cyffredinol o gefnogaeth i ofalwyr. Mae angen sicrhau bod y gwyliau yn ddigon hyblyg i gyd-fynd ag anghenion teuluoedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £1.5 miliwn y flwyddyn o gyllid grant penodol i awdurdodau lleol rhwng 2007 a 2010, i hybu a gwella gwasanaethau gwyliau byr i blant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd. Drwy Grant Cynnal Refeniw'r awdurdodau lleol y darparwyd y cyllid hwnnw ers 2010.

Dywedodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Bydd angen i awdurdodau lleol asesu anghenion lleol. Bydd y cyfleoedd a’r ddarpariaeth yn amrywio o un ardal i’r llall a dylai’r gwyliau sy’n cael eu darparu adlewyrchu hynny.

“Mae’n hollbwysig fod rhieni a gofalwyr yn cael gwybod am y mathau o wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.

“Mae hyn yn cyd-fynd â’r hyn rydym am ei gyflawni drwy’r amrywiaeth o ddarpariaethau ym Mil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), sydd ar ei ffordd.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gwasanaethau cymdeithasol

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 25 Mehefin 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2012
Ll M M I G S S
<< Mai   Gor >>
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28 29 30  
I'n dilyn ni trowch i