Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dysgu o brofiad er mwyn gwneud gwahaniaeth

Mae Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi ymweld ag Ysgol Hendre ym Mryncoch, Castell-nedd er mwyn bod yn bresennol mewn cyfarfod o Grŵp Anghenion Arbennig Castell-nedd Port Talbot.
Dydd Mawrth 29 Mai 2012

Mae’r grwp yn cynnwys rhieni a gofalwyr plant ac oedolion ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, gan gynnwys anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, anableddau dysgu, anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau.

Bu’r Dirprwy Weinidog yn trafod y datblygiadau cyfredol o fewn y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, a holodd y grwp am eu profiadau nhw eu hunain.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Bydd bob amser cyfle i ddysgu o brofiad a gwneud gwahaniaeth i’r rheini sy’n gofyn am ein cymorth, ac rwy’n teimlo’n gryf iawn ynghylch gweithio i wella bywydau pobl anabl, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

“Mae Gweinidogion wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach eleni ar sut y dylid datblygu Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig hyd at 2015.

“Pan lansiwyd y cynllun gweithredu hwn yn 2008, cafodd ei ystyried fel y cynllun cyntaf o’i fath yn y byd i gyd. Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn pobl ar y llwybr y byddwn yn ei gymryd yn y dyfodol i gadw Cymru ar flaen yr agenda hon.

“Cyn bo hir byddwn yn dechrau ar broses o ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion i ddarparu mwy o gysondeb rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol. Bydd hyn yn cynnwys cynigion i ddiwygio’r system statudol o asesiadau a datganiadau yng Nghymru.

“Hefyd fe wnaethon ni gyhoeddi darn pwysig o ddeddfwriaeth eleni, sef Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), a fydd yn rhoi llais cryfach i bobl a rheolaeth wirioneddol dros y gwasanaethau gofal cymdeithasol y maent yn eu defnyddio, ac yn helpu i ddiwallu eu hanghenion cyfnewidiol.

“Fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Bill, rydym wedi gofyn am farn pobl ar y ffordd orau i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth. Edrychaf ymlaen at weld yr ymatebion.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru)

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 29 Mai 2012 Programme for Government - Healthcare Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i