Mae trydydd Adroddiad Cryno blynyddol Archwilio Hanfodion Gofal Cymru Gyfan yn crynhoi’r canlyniadau o ysbytai Cymru. Erbyn hyn mae pob un ohonynt yn defnyddio Offeryn Archwilio Hanfodion Gofal Cymru Gyfan.
Adeiladu ar y momentwm a’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw ei nod, yn ogystal â helpu i wireddu’r dyheadau ehangach a amlinellwyd yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Elfennau sylfaenol gofalu am gleifion yw’r “Hanfodion Gofal”, fel y ffordd y cyfathrebir â chleifion, y ffordd y cânt eu cadw’n lân, pa mor dda maen nhw’n bwyta ac yn yfed ac i ba raddau maen nhw’n teimlo’n ddiogel ac o bwys yn yr ysbyty.
Mae’r adroddiad yn dangos bod cleifion wedi rhoi sgôr uchel yn amryw o’r 12 maes a archwiliwyd, a bod pobl yn cael eu parchu’n fwy o lawer, wrth i arferion da gefnogi’r agenda urddas a pharch. Gwelwyd canlyniadau gwych gan ddefnyddwyr hefyd o ran sicrhau bod cleifion yn gysurus a lleddfu eu poen. Derbyniodd staff ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd adborth cadarnhaol o fwy na 95% - gyda Bwrdd Addysgu Iechyd Powys yn cael sgôr o 100%.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Dyma’r tro cyntaf inni gyhoeddi adroddiad ar safon y gofal y bydd oedolion sy’n gleifion yn ei dderbyn ledled Cymru. Mae’r canlyniadau yn adlewyrchu ymrwymiad nyrsys i ddarparu gofal rhagorol.
“Yn ogystal â dangos ble mae’r GIG yn perfformio’n dda, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y meysydd y mae angen eu gwella. Un o’r rhain yw iechyd a hylendid y geg, a gaiff ei dargedau gan fentrau fel y Pecyn Gofal y Geg a lansiwyd gennyf yr wythnos diwethaf, ble mae Cymru yn arwain y ffordd.”
Ychwanegodd yr Athro Jean White, y Prif Swyddog Nyrsio Cymru:
“Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd gan yr offeryn i ffurfio meincnod ar gyfer blaenoriaethu camau lleol gan sefydliadau, yn ogystal â dylanwadu ar waith drwy Gymru gyfan.
“Gellir ei ddefnyddio i dynnu sylw at arferion gorau, y gellir eu rhannu rhwng byrddau iechyd er mwyn rhoi gofal o safon uwch i gleifion a gwella profiad cyffredinol y claf.”











