Cyhoeddodd Lesley Griffiths y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai’r Ysbyty yn derbyn yr arian er mwyn gallu symud y cyfleuster meddygaeth presennol ar gyfer yr henoed o Hill House, ysbyty cymunedol yng nghanol Abertawe, i Ward 4 yn Ysbyty Singleton.
Mae pobl hŷn sydd wedi cael strôc neu sy’n dioddef o broblemau’r galon a/neu’r frest yn derbyn gofal i’w helpu i adfer eu hiechyd mewn dwy ward cwbl ar wahân i’w gilydd yn Hill House.
Bydd y cyfleusterau newydd yn Ward 4 yn rhoi mwy o breifatrwydd ac urddas i ddynion a menywod, ac yn darparu lleoliad gofal addas ynghyd ag offer a chyfleusterau monitro priodol er mwyn cadw golwg ar gleifion oedrannus, yn unol â’u hangenion clinigol. Bydd hefyd yn sicrhau bod staff meddygol yr Ysbyty o fewn cyrraedd er mwyn gallu darparu gofal bob awr o’r dydd a’r nos.
Bydd y cyllid hefyd yn dod â holl wasanaethau’r Ganolfan Datblygu Plant at ei gilydd yn Wardiau 14 a 15 yn Ysbyty Singleton.
Ar hyn o bryd mae’n rhaid i gleifion ifanc deithio i saith lleoliad gwahanol yn Abertawe i fanteisio ar wasanaethau fel therapi galwedigaethol, ffisiotherapi, therapi iaith a lleferydd a phaediatregwyr cymunedol.
Bydd y datblygiad yn gwella gwasanaeth y Ganolfan Datblygu Plant ac yn rhoi gwell cefnogaeth i’r timau amlddisgyblaeth allu darparu gwasanaethau mwy cydgysylltiedig, gan ddarparu gwasanaeth mwy hygyrch i blant a’u gofalwyr a darparu gwasanaethau iechyd o safon uwch i gleifion a’u teuluoedd.
Dywedodd Win Griffiths, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg:
“Rydym yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i’n helpu i foderneiddio gwasanaethau iechyd Abertawe Bro Morgannwg a darparu amgylchedd o safon uchel i gleifion a staff.
“Bydd y buddsoddiadau hyn yn helpu cleifion oedrannus yn ogystal â phlant ag anableddau, ac rydym yn falch dros ben ein bod yn gallu bwrw ymlaen â’r datblygiadau hyn.”
Dywedodd Lesley Griffiths y Gweinidog Iechyd:
“Bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i ddau grŵp o gleifion agored i niwed.
“Bydd gwelliannau i’r cyfleusterau gofal ar gyfer yr henoed yn sicrhau eu bod yn derbyn gofal diogel, cynaliadwy ac uchel ei safon drwy’r amser, gan wella profiad y claf.
“Yn ogystal â gwneud gwasanaethau plant yn fwy effeithlon, bydd y Ganolfan Datblygu Plant yn darparu cyfleusterau sy’n cyd-fynd yn llwyr â rheoliadau’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, ac amgylchedd priodol i wasanaethau plant. Unwaith eto, bydd hyn yn gwella profiad y claf.”











