Ysbyty Aneurin Bevan, sy'n werth £60 miliwn ac sydd wedi'i enwi er cof am sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yw'r Ysbyty Cyffredinol Lleol newydd ar gyfer Blaenau Gwent a'r prosiect adfywio mawr cyntaf sydd wedi'i gwblhau ar hen safle gwaith dur Corus.
Bydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd gwell a modern, yn nes at gymunedau lleol. Hwn yw'r ysbyty cyntaf i gael arian cyhoeddus yn y DU i gynnig ystafelloedd sengl a chyfleusterau en-suite yn unig i wella preifatrwydd ac urddas cleifion a lleihau heintiau.
Bydd cleifion hefyd yn elwa ar y gwasanaethau diagnostig diweddaraf. Mae'r adran radioleg yn cynnwys offer pelydr-X Wi-Fi digidol a hi yw'r gyntaf o'i math yng Nghymru.
Mae'r ysbyty yn cynnig:
- 96 o ystafelloedd sengl en-suite;
- 11 o ystafelloedd sengl en-suite i oedolion sydd ag afiechyd meddwl;
- 15 o ystafelloedd ymgynghori â chleifion allanol i'w gwneud yn bosibl gweld ymgynghorydd yn gynt;
- Adran radioleg, gan gynnwys dwy ystafell pelydr-X digidol a dau beiriant uwchsain a modd i ddefnyddio sganiwr MRI symudol;
- Ystafell rhoi genedigaeth i wella'r gwasanaethau mamolaeth yn yr ardal a lleihau'r angen i deithio;
- Gwasanaethau patholeg, therapïau a gwasanaethau adsefydlu, gan gynnwys ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a therapi lleferydd;
- Gwasanaethau Meddyg Teulu y tu allan i oriau ac uned ar gyfer mân-anafiadau.
Ychwanegodd Edwina Hart:
"Mae hon yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o sicrhau bod gofal iechyd ar gael i bobl Cymoedd De Cymru yn rhwyddach. Mae'n briodol y caiff yr ysbyty newydd ei enwi er cof am Aneurin Bevan, oherwydd cysylltiad hanesyddol Blaenau Gwent â'r GIG.
"Bydd y cyfleuster newydd hwn yn sicrhau bod gofal iechyd a gynllunnir a gofal iechyd brys ar gael yn nes at gartrefi pobl.
"Ysbyty Aneurin Bevan yw'r cyntaf o genhedlaeth newydd o ysbytai yng Nghymru i gynnig ystafelloedd sengl en-suite i gleifion, a fydd yn eu helpu i wella ac yn helpu i wella preifatrwydd a lleihau perygl heintiau.
"Bydd yn dod ag ystod o wasanaethau dan un to, fel triniaeth cleifion allanol, diagnosteg, gwasanaethau mamolaeth, unedau ar gyfer mân-anafiadau a gwasanaethau Meddyg Teulu y tu allan i oriau."











