Caiff yr arian ei wario ar offer telefeddygaeth er mwyn i glinigwyr allu cynnal asesiad gweledol o’r claf a gwneud diagnosis o strôc unrhyw le yng Nghymru.
Mae'n golygu y bydd modd i glinigwyr benderfynu'n gyflym a ddylid rhoi triniaeth thrombolysis i gleifion ar ôl gweld canlyniadau eu sgan CT.
Thrombolysis yw'r dull o chwalu clotiau gwaed gan ddefnyddio cyffuriau. Trwy chwalu'r clot, gellir atal y broses neu leihau'r cymhlethdodau ond mae’n hanfodol asesu'r cleifion ar gyfer thrombolysis o fewn teirawr.
Bydd unedau telefeddygaeth cludadwy yn galluogi ymgynghorwyr mewn lleoliad gwahanol i roi asesiadau ‘rhithiol’ i gleifion strôc drwy gamera fideo a sgrin. Mae'r offer yn ei gwneud yn bosibl i weithwyr iechyd proffesiynol gyfweld â chleifion a pherthnasau a gweld canlyniadau profion a sganiau ar yr un pryd er mwyn eu helpu i benderfynu ar driniaeth.
Bydd yr offer hyn yn helpu ymgynghorwyr gan nad yw thrombolysis yn driniaeth addas i bob claf sydd wedi cael strôc acíwt.
Caiff y dechnoleg newydd hon ei chyflwyno'n raddol, gan ddatblygu'n wasanaeth ar gyfer Cymru gyfan. Mae disgwyl i safleoedd ledled Cymru gael eu cysylltu â rota ymgynghorwyr ar alwad sy'n cynnig diagnosis a thriniaeth 24 awr.
Gall yr offer hefyd gael ei ddefnyddio i leihau'r amser teithio hefyd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gan sicrhau bod gwasanaethau thrombolysis yn cael eu darparu'n gyfartal ar draws pob Bwrdd Iechyd.
Meddai Mrs Hart:
"Fe all strôc gael effaith ddifrodus ar unigolion a'u teuluoedd.
"Bydd y buddsoddiad hwn mewn offer newydd yn sicrhau bod llai o angen i gleifion deithio i gael y driniaeth orau.
"Trwy sicrhau bod modd cael gafael ar gyffuriau chwalu clotiau yn gynt ym mhob rhan o Gymru, byddwn ni'n lleddfu canlyniadau strôc. Dylai hyn sicrhau bod cleifion yn gwella'n gynt a gwella ansawdd bywyd."
Meddai Arweinydd Clinigol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Strôc, Dr Anne Freeman:
"Rydyn ni wrth ein boddau ac yn croesawu penderfyniad y Gweinidog i ariannu telefeddygaeth ar gyfer gwasanaethau strôc acíwt yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i asesu cleifion, gan gynnwys darparu thrombolysis, y cyffur i chwalu clotiau ac elfennau hanfodol eraill o ofal strôc acíwt.
"Bydd yn sicrhau bod mwy o ardaloedd gwledig yng Nghymru yn elwa hefyd. Bydd yn ei gwneud yn bosibl i raglen Cymru ar gyfer Datblygu Gwasanaethau Strôc gymryd cam pwysig arall ymlaen tuag at ddarparu gwasanaeth o safon fyd-eang."











