Mae’r ystadegau’n dweud wrthym:
- Fod 45% o oedolion yng Nghymru yn yfed mwy na’r canllawiau dyddiol o leiaf unwaith yr wythnos, ac mae dros chwarter yn goryfed mewn pyliau bob wythnos
- Bod rhwng 3-5% o’r holl absenoldebau o’r gwaith yn gysylltiedig ag alcohol
- Bod oddeutu 1,000 o farwolaethau y flwyddyn yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru
- Bod bron i hanner yr achosion o drais yn gysylltiedig ag alcohol
Mae’r rhain yn ffigurau sy’n peri syndod. Ond nid yw’r rhain hyd yn oed yn gwneud cyfiawnder â’r trallod dynol sy’n cael ei achosi gan gamddefnyddio alcohol – yr unigolion sy’n niweidio eu hiechyd, y teuluoedd sy’n cael eu difetha gan drais domestig sy’n gysylltiedig ag alcohol, a’r cymunedau sy’n dioddef o’r trais a’r ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n aml iawn yn gysylltiedig ag yfed gormod o alcohol.
Mae’r ffigurau hyn hefyd yn dechrau awgrymu’r baich sylweddol yn mae camddefnyddio alcohol yn ei roi ar ein gwasanaethau cyhoeddus – yn enwedig y gwasanaeth iechyd. Mae’r gost i’n GIG yn oddeutu £70-£85 miliwn. Yn y blynyddoedd a ddaw, pan fydd angen inni wneud mwy â llai, bydd yn rhaid inni ddelio yn gadarn â’r holl faterion sy’n gysyIltiedig â iechyd y cyhoedd sy’n cynyddu’r beichiau hyn ar ein GIG, ac fe wyddom bod alcohol yn un o achosion mwyaf afiechyd y gellir ei atal yr ydym yn ei wynebu. Dyna pam, fel Gweinidog Iechyd, yr wyf yn benderfynol y dylem fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol gan ddefnyddio pob dull sydd o fewn ein gallu, ac rwy’n gwybod bod consensws ar draws y Siambr ar hyn.
Bydd rhai pobl yn dweud wrthych bod yfed gormod o alcohol rhywsut yn rhan o’n cymeriad, fel hyn y bu erioed. Dyna neges o orchfygiad – mae’n awgrymu y dylem ganolbwyntio ein sylw ar glirio’r llanastr, yn hytrach na mynd i’r afael â’r achosion sy’n wraidd i hyn. Nid wyf yn derbyn y dadansoddiad hwn.
Mae alcohol wedi bod yn rhan o’n diwylliant erioed, ond nid yw wedi ei reoli fel yr ymddengys sy’n digwydd heddiw. Nid yw’n wir ein bod wedi bod yn yfed cymaint â hyn erioed – yn 1947 roeddem yn yfed oddeutu tair litr a hanner o alcohol pur y pen; erbyn heddiw mae wedi codi i naw a hanner litr.
Felly beth sydd wedi newid? Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y cynnydd yn yr alcohol sy’n cael ei yfed, ond nid oes amheuaeth bod alcohol bellach yn llawer mwy fforddiadwy – mae wedi cynyddu mewn pris, ond mae’r cynnydd hwnnw wedi ei leihau gan y cynnydd yn ein hincwm.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae alcohol rhad wedi dod yn llawer haws i’w gael. Y rheswm am hyn yw archfarchnadoedd yn lleihau prisiau – gan gynnwys gwerthu am bris isel iawn i ysgogi gwerthiant – a thrwy hybu gwerthiant yn anghyfrifol yn rhai o’n bariau a’n clybiau. Dengys rhai astudiaethau bod alcohol ar werth am cyn lleied ag 11c yr uned. Am y pris hwnnw, gall menyw yfed dair gwaith cymaint â’r hyn a argymhellir am lai na £1 y dydd.
Mewn rhai ffyrdd, synnwyr cyffredin yw bod prisiau is yn arwain at yfed mwy. Ond bellach, mae tystiolaeth gref i gefnogi’r honiad hwn – mae adroddiadau sylweddol a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Alcohol, a chan Brifysgol Sheffield, wedi dangos bod gwneud alcohol yn fwy fforddiadwy yn arwain at yfed mwy. Maent hefyd wedi dangos bod cynyddu pris alcohol yn lleihau faint sy’n cael ei yfed, yn enwedig ymysg pobl ifanc, y rhai hynny sy’n goryfed mewn pyliau, a’r rhai sy’n niweidio eu hunain wrth yfed ac yn ddibynnol ar alcohol. Felly rydym yn credu bellach bod achos cryf dros gyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol.
Ond beth a allwn ni ei wneud am hyn yng Nghymru? Mae ein strategaeth camddefnyddio sylweddau yn rhoi amlinelliad o ba mor benderfynol ydym i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol, ac yn ein hymrwymo i bwyso am weithredu cadarn i fynd i’r afael â phrynu alcohol, gan gynnwys:
- Rheolau mwy llym ar hybu alcohol;
- Ystyried lleihau’r galw trwy gyflwyno isafswm pris; a,
- Cynyddu’r dreth, a chael cysylltiad agosach rhwng lefelau’r dreth a chryfder yr alcohol.
Nid oes gennym y pwerau ar hyn o bryd i weithredu’r newidiadau hyn ein hunain. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar baratoi achos i Lywodraeth y DU, ac rwyf i a’m cydweithwyr Gweinidogol wedi ysgrifennu ar nifer o achosion i dynnu sylw at y materion hyn. Ac rwy’n credu bod pobl yn dechrau cytuno â ni. Yn y misoedd diwethaf, rydym wedi cael galwadau am isafswm prisiau gan Gymdeithas Feddygol Prydain, Sefydliad Cenedlaethol Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol, a’r Pwyllgor Dethol Seneddol ar Iechyd.
Ond beth fyddai hyn yn ei olygu i’n dinasyddion? Yn ei Adroddiad Blynyddol yn 2008, galwodd Syr Liam Donaldson am gyflwyno isafswm pris o 50c yr uned. Awgrymodd y byddai disgwyl i nifer y marwolaethau bob blwyddyn yn Lloegr sy’n gysylltiedig ag alcohol, wedi deng mlynedd, leihau o dros chwarter. Mae Llywodraeth yr Alban wedi comisiynu gwaith ymchwil sy’n awgrymu y byddai isafswm pris o 40c yn arwain at ostyngiad yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn yr Alban o oddeutu 70 yn y flwyddyn gyntaf, ac oddeutu 370 y flwyddyn wedi 10 mlynedd – gostyngiad o bron 20 y cant.
Nid oes gennym ffigurau penodol ar gyfer Cymru, ond mae’r dystiolaeth hon yn awgrymu, ar ôl 10 mlynedd, y gallai isafswm pris fesul uned o rhwng 40c a 50c leihau nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru rhwng 20-25%. Byddai hyn yn cyfateb â rhwng 200-250 yn llai o farwolaethau y flwyddyn wedi 10 mlynedd. Dyna paham bod fy Mhrif Swyddog Meddygol, Dr Tony Jewell, hefyd wedi galw am gyflwyno isafswm pris.
Mae rhai’n dadlau bod isafswm pris yn cosbi pawb sy’n yfed alcohol, nid y rhai hynny sy’n goryfed yn unig. Nid wyf yn derbyn y ddadl hon – bydd yr effaith ar y rhai hynny sy’n yfed o fewn canllawiau synhwyrol yn fach, ac roedd y gwaith a gomisiynwyd gan Brifysgol Sheffield yn awgrymu y byddai isafswm pris o 40c yr uned yn golygu cost o 11c yr wythnos yn ychwanegol i’r yfwr cymedrol. Y rhai sy’n yfed llawer mwy fydd yn sylwi ar y gwahaniaeth, ac felly bydd gobeithio’n cymedroli faint y maent yn ei yfed, yn enwedig y bobl ifanc.
Mae mynd i’r afael â’r niwed sy’n deillio o alcohol yn golygu ystyried mwy na’r pris wrth gwrs – mae’n golygu addysgu ac atal, gwybodaeth well i ddefnyddwyr, a chymorth i’r rhai hynny sydd â phroblemau alcohol. Rydym wedi buddsoddi’n drwm yn y meysydd hyn – mae ein cyllideb camddefnyddio sylweddau bellach yn £52.6 miliwn. I helpu pobl i ddeall y risgiau iechyd sy’n gysylltiedig ag yfed dros y terfynau yfed diogel, rydym yn defnyddio proses sgrinio ac ymyriadau byr o fewn gofal sylfaenol ac yn ystod ymweliadau â’r ysbyty, gyda’r nyrsys yn yr Adrannau Brys yn cael eu hyfforddi i roi cyngor ar yfed alcohol yn gymedrol i’r rhai hynny sy’n goryfed mewn pyliau.
Ond mae’n well ceisio rhwystro’r broblem na gorfod gwella pobl: rydym yn cydweithio â cholegau addysg bellach ac uwch i leihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan alcohol, a byddwn cyn bo hir yn ymgynghori ar ganllawiau arferion da ar gyfer y sector hwn. Rydym hefyd yn cydweithio â UCM Cymru i edrych ar gyfleodd i undebau myfyrwyr hybu’r neges o yfed yn gymedrol ymysg myfyrwyr prifysgol. Rydym hefyd am sicrhau bod rhieni yn deall yr effaith y gall eu hyfed ei gael ar eu plant, ac rydym yn cefnogi Heddlu Gwent i gynnal cyfres o nosweithiau rhieni i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau defnyddio alcohol yn niweidiol, a chyffuriau eraill/anghyfreithlon. Rydym hefyd wedi sefydlu Rhaglenni Cryfhau Teuluoedd mewn saith o ardaloedd. Mae’r rhain yn anelu at gryfhau’r elfennau amddiffynnol o fewn teuluoedd, a allai helpu i rwystro pobl ifanc rhag camddefnyddio alcohol.
Bu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio’n galed iawn i fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol, gan ddefnyddio popeth o fewn ei gallu, a byddant yn parhau i wneud hynny. Ond mae’n bwysig inni beidio ag anwybyddu y dystiolaeth ei bod yn bosibl, wrth wneud alcohol ychydig yn llai fforddiadwy, lleihau’n sylweddol y broblem o gamddefnyddio alcohol yn ein cymdeithas. Ac rwy’n bendant iawn, os nad ydym yn gweld y camau yr ydym eu hangen ar lefel y DU yn fuan iawn, y daw yr amser pan fyddwn yn gofyn am fwy o bwerau i weithredu ein hunain.











