Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dirprwy Weinidog i ymgynghori ynglŷn â swyddogaeth cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol

Heddiw, [dydd Gwener, 5 Rhagfyr] bydd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC, yn cyflwyno ei chynlluniau i gryfhau gwasanaethau cymdeithasol Cymru ymhellach.
Dydd Gwener 05 Rhagfyr 2008

Roedd Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad, yn disgrifio sut bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn datblygu dros y 10 mlynedd nesaf, er mwyn gallu ymateb yn fwy effeithiol i anghenion pobl.

Bydd gwasanaethau cymdeithasol Cymru yn parhau i ddarparu gofal i blant ac oedolion a chynnig cymorth a chefnogaeth i deuluoedd er mwyn sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu hamddiffyn. Mae arweinyddiaeth gadarn ar gyfer y gwasanaethau hyn yn hollbwysig, ac i’r perwyl hwnnw cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y cynhelir ymgynghoriad ar y canllawiau statudol drafft ar Swyddogaethau ac Atebolrwydd Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau am 12 wythnos, gan ddod i ben ar 2 Mawrth 2009.

Dywedodd Gwenda Thomas:

Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i’r gwasanaethau cymdeithasol a’r pwysigrwydd y mae’n ei roi iddynt. Mae’n adeiladu ar y canllawiau sydd eisoes yn bodoli, ac yn egluro’r trefniadau gwaith rhwng y Cyfarwyddwr a’r swyddogion eraill sydd â chyfrifoldebau dros y gwasanaethau plant ac oedolion.

Mae llawer iawn wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf i ddatblygu’r gwasanaethau fel eu bod yn gallu parhau i gynnig y cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol i bobl, gan gydweithio’n agos â rhannau eraill o’r sector cyhoeddus.

Mae staff y gwasanaethau cymdeithasol yn gwneud swyddi anodd ond boddhaus dros ben, gan weithio gyda rhai o’r teuluoedd mwyaf agored i niwed a heriol mewn cymdeithas.

Yma yng Nghymru byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau gwasanaethau cymdeithasol integredig i blant, teuluoedd ac oedolion. Ein nod yw adeiladu ar, a chryfhau, y trefniadau cyfredol. Credwn y bydd hyn yn galluogi’r staff i roi cymorth, i ofalu ac i amddiffyn yn y ffordd orau bosibl. Nid oes gennym unrhyw fwriad i gyflwyno trefniadau gwahanol yng Nghymru.

Gall y gwasanaethau cymdeithasol gael effaith ar bob un ohonom, neu ein teuluoedd, ar ryw adeg yn ein bywydau, felly byddwn yn annog pawb i ddarllen y ddogfen hon a dweud eu dweud.

5 Rhagfyr 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Iechyd a gofal cymdeithasol

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 05 Rhagfyr 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2012
Ll M M I G S S
<< Ebr   Meh >>
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
I'n dilyn ni trowch i