Ar hyn o bryd mater i awdurdodau lleol unigol yw codi tâl am ofal cartref a gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl eraill. Mae hyn wedi arwain at amrywiadau sylweddol yn y polisïau codi tâl ar gyfer gwasanaethau cyfatebol ar draws Cymru.
Bydd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a gyflwynir heddiw, sef Codi tâl am Ofal Cymdeithasol Dibreswyl (Gofal Cartref), yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i ddeddfu yn erbyn gwahaniaethau o'r fath.
Esboniodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol:
Mae gwir angen i'r Cynulliad gael y pŵer i ddeddfu yn y maes hwn.
Gwnaeth "Charging for Care", adroddiad y Comisiwn Archwilio a gyhoeddwyd yn 2000, ac arolwg a gynhaliwyd yn 2005 gan Brifysgol Stirling, dynnu sylw at raddau'r amrywiadau ar y pryd rhwng y tâl a godwyd gan wahanol awdurdodau lleol am wasanaethau dibreswyl.
Rydym wedi ymrwymo yn 'Cymru'n Un' i sicrhau dull mwy teg a chyson o godi tâl ar bob oedolyn sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl ledled Cymru. Bydd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a gyflwynir heddiw yn ein galluogi i gyflwyno deddfwriaeth i wireddu'r ymrwymiad hwn.
Mae polisïau'r awdurdodau lleol yn amrywio mewn sawl ffordd: o'r tâl a godir ganddynt; p'un a ydynt wedi pennu uchafswm ai peidio a lefel yr uchafswm; a'r hyn y maent yn ei ystyried ac yn ei ddiystyru wrth asesu incwm unigolyn er mwyn pennu pa lefel o dâl y gellir ei chodi. Er enghraifft: mae'r uchafswm a godir gan yr awdurdodau lleol bob wythnos am wasanaethau gofal cartref yn amrywio o £16.20 yr wythnos i £185 yr wythnos.
Mae'r penderfyniad i geisio pwerau ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gysylltiedig â strategaeth ddeng mlynedd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, sef “Bywydau Cyflawn, Cymunedau Cefnogol”.
Mae'r strategaeth hon yn pwysleisio bod angen moderneiddio er mwyn darparu gofal hygyrch a phersonol i bobl a fydd yn eu galluogi i gadw rheolaeth dros eu bywydau, hyd yn oed pan fydd yn rhaid iddynt ddibynnu ar gymorth gan eraill.
Dywedodd Gwenda Thomas:
Mae'r strategaeth yn rhagweld y bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gymorth yn y cartref, ymyrraeth gynharach a gwasanaethau ataliol, yn hytrach nag ar ofal preswyl.
Felly, mae angen i ni sicrhau bod trefniadau awdurdodau lleol ar gyfer codi tâl am wasanaethau cymdeithasol yn cefnogi'r weledigaeth hon.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cwmpasu taliadau y mae awdurdodau lleol yn eu codi ar gyfer gofal cymdeithasol dibreswyl yn unig. Ni fyddai'n galluogi'r Cynulliad i ddeddfu o ran taliadau y mae darparwyr gofal preifat yn eu codi am ofal cymdeithasol dibreswyl. Bydd llawer iawn o waith ymchwil ac ymgynghori'n cael ei wneud er mwyn pennu sut orau i sicrhau dull mwy teg a chyson.
26 Tachwedd 2007











