Bydd y gyllideb ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn codi o dros £5.4 biliwn eleni i dros £5.65 biliwn flwyddyn nesaf. Erbyn 2009-10, bydd wedi cynyddu i dros £5.86 biliwn, ac i dros £6 biliwn erbyn 2010-11.
Mae’r arian hwn yn cynnwys:
• £4.5m i gyflawni’r ymrwymiad i gyllido nyrs deulu ar gyfer pob ysgol uwchradd;
• bron i £17m i wella mynediad at wasanaethau’r GIG, trwy gynnig gwasanaeth un stop hwylus ar gyfer cleifion, heb apwyntiadau a heb amseroedd aros hir;
• £7.5m ar gyfer gwell darpariaeth ar gyfer cyflyrau cronig, hirdymor, megis strôc a diabetes;
• £8m yn ychwanegol ar gyfer gofal lliniarol, a fydd o fudd mawr i gleifion sy’n dioddef o ganser.
Bydd y cyllid hwn yn caniatáu inni weithio i gyflawni’r ymrwymiadau yn y ddogfen Cymru’n Un, gan gynnwys gwella mynediad at wasanaethau’r GIG drwy ganolfannau lles a chanolfannau galw heibio mewn fferyllfeydd, a diwygio’r taliadau parcio a’r ddarpariaeth ffonau a setiau teledu mewn ysbytai.
Yn ogystal â gwella mynediad at wasanaethau iechyd o ansawdd uchel, mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi pwyslais mawr ar atal clefydau a gwella iechyd yn gyffredinol.
Mae darparu un nyrs deuluol ar gyfer pob ysgol uwchradd, a chyllido’r brechlyn yn erbyn canser ceg y groth ar gyfer pob merch 12 a 13 oed o’r hydref nesaf ymlaen, yn fuddsoddiad mewn gwella iechyd pobl Cymru yn y tymor hir.
Mae rhagor o arian yn cael ei ddarparu i wella gwasanaethau strôc a gwella’r cymorth ar gyfer pobl sydd â chlefydau cronig fel diabetes, er mwyn sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau y maent eu hangen pan fyddant yn sâl. Bydd y gyllideb hefyd yn cynnal polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar bresgripsiynau am ddim.
Mae’r gyllideb iechyd wedi dyblu a rhagor ers dyfodiad y Cynulliad. Felly, mae’n bwysig bod y gwasanaeth iechyd yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma gyda’r buddsoddiad hwnnw.
07 Tachwedd 2007











