Dywedodd Dr Jewell y gall pobl gymryd rhai camau hawdd er mwyn cadw’n ddiogel ac yn iach dros yr ŵyl.
Dywedodd fod ymgyrch flynyddol Llywodraeth y Cynulliad, Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn, yn atgoffa pobl i Gadw’n Iach, Cadw’n Gynnes a Chadw’n Ddiogel.
Ymhlith y cynghorion mae:
• Bod yn barod drwy archebu presgripsiynau amlroddadwy yn gynnar i sicrhau bod pobl yn cael pob meddyginiaeth angenrheidiol;
• Bwyta mwy o fwydydd iach cynnes ac yfed digon o ddiodydd cynnes a bod yn gall wrth yfed alcohol;
• Cadw’n gynnes drwy wisgo sawl haen denau o ddillad cynnes, cadw i symud a chymryd camau i leihau drafftiau gartref;
• Lleihau’r perygl o gwympo drwy symud annibendod o risiau a’r mannau rydych chi’n cerdded, trwsio rygiau a charpedi a cheblau trydan wedi treulio, osgoi gwisgo sliperi nad ydynt yn ffitio’n iawn neu sydd heb gefn, a rhoi halen ar risiau tu allan sy’n wlyb neu sydd â rhew arnynt.
Dywedodd Dr Jewell:
Does gan bobl mo’r help eu bod nhw’n mynd yn sâl neu fod angen cymorth gofal brys arnyn nhw, ond fe allan nhw gymryd rhai camau syml i leihau’r perygl o fynd yn sâl neu leihau’r perygl o gael damweiniau.
Mae bod yn barod a gwneud yn siwr bod gan bobl ddigon o’u moddion presgripsiwn i bara dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn un ffordd i’w helpu i gadw’n iach. Ond mae llawer o bethau y gallan nhw eu gwneud gartref i leihau’r perygl o gwympo, llithro a damweiniau eraill.
Os oes angen cyngor iechyd am bethau bach ar bobl, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael drwy Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ei wefan yn www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy/hafan neu wrth gwrs mae cyngor ar gael mewn fferyllfeydd lleol ar gyfer mân-anhwylderau.
Mae’n syniad da i bobl wybod beth yw manylion cyswllt gwasanaethau eu meddygon teulu y tu allan i oriau. Ond ar gyfer achosion brys fel mynd yn anymwybodol, trafferth anadlu neu drawiad posibl ar y galon a phoen yn y frest, ffoniwch 999 neu ewch yn syth i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys.
Drwy gymryd rhai camau syml, fe gawn ni i gyd Nadolig a Blwyddyn Newydd diogel a iach.
20 Rhagfyr 2007











