Bydd y panel cynghori ar ddarlledu yn canolbwyntio ar yr holl faterion sy’n gysylltiedig â darlledu cyhoeddus, gan gynnwys y ffaith fod angen diogelu a chefnogi buddiannau diwylliannol, ieithyddol, economaidd a democrataidd penodol Cymru.
Bydd y grŵp yn adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weinidog a bydd yn cwrdd unwaith y mis ac yn cynnig cyngor ac argymhellion ar sut orau i wneud y mwyaf o effaith darlledu yng Nghymru.
Bydd y panel newydd hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar nifer o ymgyngoriadau sy’n ymwneud â’r Deyrnas Unedig gyfan, gan gynnwys y Bil Cyfathrebu, siarter newydd y BBC a thrafodaethau am y drwydded, adnewyddu trwyddedau ITV a rôl y BBC yn y gwaith o reoleiddio ac ariannu S4C.
Caiff y cyfarfod cyntaf ei gynnal ddydd Iau 6 Medi. Dyma aelodau’r panel:
- Ron Jones – sylfaenydd a Chadeirydd Gweithredol Tinopolis, un o gwmnïau cyfryngau annibynnol mwyaf y DU gyda mwy na 400 o staff llawnamser.
- Emyr Byron Hughes – cyfreithiwr cyfryngau a chynghorydd polisi gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant darlledu. Mae wedi gweithio ar lefel uwch yn S4C, ym maes cynhyrchu annibynnol a chynghori.
- Yr Athro Justin Lewis – Athro Cyfathrebu a Phennaeth Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, Cyfyngau a Diwylliannol Caerdydd. Mae’n sylwebydd rheolaidd ar y cyfryngau, gwleidyddiaeth a materion diwylliannol yn y cyfryngau yn y Deyrnas Unedig ac Unol Daleithiau America.
- Hilary Boulding - Pennaeth Coleg Brenhinol Coleg Cerdd a Drama Cymru. Mae wedi gweithio ym maes darlledu celfyddydol, gan gynnwys cyfnodau fel Golygydd Comisiynu yn BBC Radio 3 ac fel Pennaeth Celf a Cherddoriaeth (Teledu a Radio) yn BBC Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Mae’n gyfnod pwysig i ddarlledu yng Nghymru. Rydyn ni’n byw mewn byd digidol sy’n newid ac yn datblygu’n gyflym ac mae heriau’n wynebu BBC Cymru ac S4C.
"Rydw i am sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn parhau’n gryf ac yn ganolog i’n trafodaeth genedlaethol a’i fod yn adlewyrchu ein gwlad fel y mae hi heddiw, gan ddarparu gwasanaethau yn Saesneg ac yn Gymraeg.
"Bydd aelodau’r grŵp newydd hwn yn defnyddio’r wybodaeth a’r profiad eang sydd ganddynt i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar sut i sicrhau dyfodol cryf i ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru."











