Mewn seremoni yn y brifwyl, cafodd ei anrhydeddu ochr yn ochr â Wynne Evans a John Hartson. Cafodd y rheini a dderbyniwyd i’r Orsedd fel derwyddon drwy anrhydedd eu hurddo i’r wisg las am ragori ym meysydd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduraeth, y cyfryngau a gweithgarwch lleol neu genedlaethol.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae hwn wedi bod yn ddiwrnod gwirioneddol arbennig i mi a fy nheulu. Mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael fy urddo i’r Orsedd a chael fy nghydnabod ar y cyd ag unigolion sydd wedi cyflawni cymaint yn eu gwahanol feysydd."
Canmolodd yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir eleni hefyd:
"Mae Bro Morgannwg wedi croesawu’r Eisteddfod gyda breichiau agored ac fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi helpu i drefnu’r ŵyl. Mae’n ddigwyddiad o bwys i Gymru ac yn ddathliad nodedig o’n hiaith a’n diwylliant."
Darparodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol gwerth £506,400 ar gyfer yr Eisteddfod eleni.











