Mae’r gwaith yn rhan o fuddsoddiad gwerth £240 miliwn yn y gwaith dur. Bydd gwerth £185 miliwn o’r buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i ailadeiladu’r Ffwrnais Chwyth a bydd £55 miliwn yn cael ei ddefnyddio i osod system oeri â nwy.
Aeth y Gweinidog Busnes Edwina Hart a Phrif Swyddog Gweithredol Tata Steel Europe, Karl Ulrich Kohler gyda’r Prif Weinidog i weld y prosiect peirianneg enfawr sydd ar y gweill i ailadeiladu’r ffwrnais chwyth.
Er mwyn cyflawni’r prosiect, caiff craeniau enfawr eu defnyddio i symud modiwlau a fydd yn rhan o’r ffwrnais. Bydd yr un mwyaf yn pwyso dros 500 o dunelli.
Bydd y ffwrnais ar ei newydd wedd yn golygu y bydd y gwaith dur yn gallu cynhyrchu hyd at 500 mil o dunelli yn fwy o ddur a bydd yn cyfrannu at ymrwymiad Tata i gynhyrchu 5 miliwn tunnell o ddur hylifol bob blwyddyn ym Mhort Talbot. Bydd y ffwrnais newydd hefyd yn cynnwys technoleg i wella’i berfformiad er lles yr amgylchedd.
Mae Tata Steel yn cyflogi dros 7,000 o bobl yn uniongyrchol yng Nghymru, ac mae 3,500 o’r rhain yn gweithio ym Mhort Talbot.
Mae’r dur sy’n cael ei gynhyrchu ar y safle’n cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o gynnyrch amlwg gan gynnwys cerbydau a wneir gan Jaguar-Land Rover, Nissan, BMW Mini a Honda.
Yn dilyn taith fasnach i India ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Prif Weinidog fod Tata wedi bwriadu buddsoddi £800 miliwn yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.
Yn ystod ei ymweliad â’r safle, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Mae cynhyrchu dur yn rhan annatod o hanes Cymru ac mae’r buddsoddiad hwn yn dangos y bydd yn parhau i fod yn agwedd ganolog ar ein dyfodol economaidd.
"Mae Tata wedi bod yn agored am yr heriau y mae’n eu hwynebu yn y farchnad dur fyd-eang. Er gwaethaf yr anawsterau hyn mae’n parhau i fuddsoddi yng Nghymru ac mae’r buddsoddiad hwn gwerth £185 miliwn yn y ffwrnais chwyth yn dangos ei ymrwymiad tymor hir i Bort Talbot ac i Gymru.
"Fy neges heddiw yw er gwaethaf yr ansicrwydd yn yr economi fyd-eang, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gydweithio’n agos â Tata i sicrhau bod gan y diwydiant dur yng Nghymru ddyfodol cadarn a’i fod yn parhau i gefnogi ein heconomi a’n swyddi."
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi llawer o gymorth i Tata yng Nghymru, gan gynnwys cyllid i hyfforddi a datblygu staff ym Mhort Talbot.
Testun pryder parhaus i Tata yw effaith prisiau ynni ar ddiwydiannau sy’n defnyddio llawer o ynni megis y diwydiant dur. Gan ystyried y mater hwn, dywedodd y Prif Weinidog:
"Rydw i wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Busnes y DU Vince Cable yn ddiweddar, gan bwysleisio’r pryderon sydd gan weithgynhyrchwyr diwydiannol sy’n cynhyrchu llawer ac sydd â pherchnogion rhyngwladol am effaith prisiau ynni uchel yn y DU. Mae angen ystyried dulliau i roi cymorth i’n diwydiannau yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd yn Ewrop."











