Mae Gofal Hosbis Dewi Sant wedi agor y drysau i’w hosbis ddydd newydd, gwerth £2.9 miliwn, ym Malpas. Bydd y cyfleuster hwn yn darparu gofal lliniarol Hosbis yn y Cartref yn rhad ac am ddim i gleifion ac i’w teuluoedd yng Nghaerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Tor-faen ac yn ne Powys.
Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cyfleuster newydd hwn drwy roi nawdd o £2 filiwn.
Mae’r adeilad yn cynnwys clinig allgymorth ar gyfer cemotherapi. Yn ogystal â hynny, cynigir triniaethau fel therapïau cyflenwol, therapi celfyddyd, gwasanaethau cymorth i blant, grwpiau i ofalwyr, a grwpiau ymdopi â galar. Mae hefyd yn cynnig cymorth a gofal seibiant ar gyfer y rhai hynny sy’n gofalu am rywun agos sydd â salwch angheuol.
Yn ogystal â darparu gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol, mae’r adeilad newydd yn dod â staff Gofal Hosbis Dewi Sant ynghyd o dan yr un to. Mae tîm codi arian Sefydliad Dewi Sant wedi’i leoli yn yr hosbis, ynghyd â’r tîm gofal Hosbis yn y Cartref sy’n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr, a nyrsys arbenigol gofal Hosbis yn y Cartref. Mae’r staff yn gofalu am ryw 3,000 o gleifion sy’n cael eu hatgyfeirio bob blwyddyn.
Wrth agor yr hosbis, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Mae’r cyfleuster newydd hwn yn hwb ar gyfer y gwaith amhrisiadwy a wneir gan staff Gofal Hosbis Dewi Sant. Maent yn cefnogi pobl drwy roi gofal diwedd oes iddynt yn eu cartrefi eu hunain, lle maent yn fwy cysurus.
"Mae hyn yn golygu gallu parhau i roi’r gofal iawn i deuluoedd ar yr adeg iawn. Felly, rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cynnig cymorth ariannol o £2 filiwn i wireddu hynny."
Yn ôl Emma Saysell, Prif Weithredwr Gofal Hosbis Dewi Sant:
"Roeddem yn falch iawn fod y Prif Weinidog wedi llwyddo i agor yr hosbis yn swyddogol i ni, a hoffem ddiolch iddo am roi o’i amser i gyfarfod â’r staff, ac â’r cleifion a’u teuluoedd. Rydym yn hynod ddiolchgar hefyd am y gefnogaeth a gawsom gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi helpu i wireddu’n cynllun am hosbis newydd.
"Mae ein hadeilad newydd yn elfen hanfodol ar ein gwaith wrth ddarparu gofal diwedd oes i bobl yn eu cartrefi eu hunain, ac wrth ddarparu hosbis ddydd newydd yr oedd galw mawr amdani yn yr ardal hon, sy’n cynnwys clinig allgymorth ar gyfer cemotherapi.
"Er mai cynnig triniaethau clinigol yw bwriad yr hosbis, mae’n holl bwysig i ni nad ar feddyginiaethau y dylai’r pwyslais fod bob tro, ac nid oes angen i naws y lle fod yn rhy glinigol ychwaith. Mae cleifion sy’n derbyn gofal diwedd oes a’u teuluoedd yn wynebu pob math o anawsterau, a bydd ein hadeilad newydd yn eu helpu i ddelio â’r anawsterau hynny drwy gynnig ystod o wasanaethau a thriniaethau, megis therapïau cyflenwol, grwpiau i ofalwyr a gwasanaethau cymorth."
Yn ogystal â darparu gofal lliniarol i gleifion yn yr ardal, mae Gofal Hosbis Dewi Sant hefyd yn helpu i hyfforddi nyrsys ardal a staff cartrefi gofal i ofalu am gleifion sydd â salwch angheuol. Mae’r adeilad newydd yn darparu ystafelloedd cynadledda a chyfarfod lle gellir cynnal sesiynau hyfforddi.
Mae Emma Saysell yn ychwanegu:
"Mae’r nifer o bobl yr ydym yn gofalu amdanynt yn cynyddu bob blwyddyn. Ar unrhyw un adeg, rydym yn darparu gofal lliniarol i 1,000 o bobl, sy’n cyfateb i gapasiti ysbyty mawr fel Ysbyty Brenhinol Gwent. Mae’r adeilad newydd hwn ar gyfer yr hosbis yn golygu y gallwn barhau i ddarparu gofal y mae galw mawr amdano. Rhodd i ni yw hon, mewn gwirionedd, un a fydd yn rhoi i ni rywle sy’n ateb y gofyn am y 30 mlynedd nesaf."











