Dyma fydd y prosiect mwyaf o’i fath yn y DU a bydd yn sicrhau bod Cymru ar y blaen ym maes band eang ffeibr.
Amlinellodd y Prif Weinidog fanylion y prosiect yn ystod ei gynhadledd fisol â’r wasg a disgrifiodd sut y bydd y prosiect yn defnyddio cyllid cyhoeddus a chyllid preifat i sicrhau y gall rhannau o’r wlad nad oes cynlluniau masnachol ar eu cyfer fanteisio ar fand eang ffeibr.
Bydd y band eang ffeibr newydd yn sicrhau cysylltiad sydd tua 15 gwaith yn fwy cyflym na’r cysylltiad sydd i’w gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn ogystal, gall band eang cyflym iawn sicrhau cysylltiad hyd yn oed cyflymach os bydd angen hynny ar fusnesau.
Golyga’r prosiect hwn, a fydd yn amodol ar gymeradwyo cymorth gwladwriaethol a chymorth ar gyfer prosiectau mawr, fod tua £425 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn band eang ffeibr yng Nghymru.
Bydd BT yn creu 50 o swyddi newydd ac yn cyflogi 100 prentis newydd. Bydd y prosiect hwn hefyd yn diogelu 320 o swyddi presennol. Bydd BT hefyd yn cynnig profiad gwaith i 900 o bobl ifanc. Gallai hyd at 2,500 o swyddi amser llawn ychwanegol hefyd gael eu creu ar draws economi Cymru ymhen amser.
Mae cytundeb heddiw yn mynd lawer pellach na tharged Llywodraeth y DU o sicrhau y gall 90 y cant o boblogaeth y DU fanteisio ar fand eang mwy cyflym.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Dyma gytundeb eithriadol o bwysig i Gymru. Bydd ein partneriaeth â BT yn sicrhau nad ceisio dal i fyny â’i chymdogion y mae Cymru eithr mynd gam ymhellach a sicrhau y bydd eraill yn awyddus i ddilyn ei thrywydd. Bydd y prosiect yn trawsnewid y ddarpariaeth o fand eang ar draws Cymru ac yn sicrhau y bydd busnesau lleol yn datblygu’n fusnesau byd eang. Bydd yn sicrhau bod cwmnïau’n aros yng Nghymru a hefyd yn denu math gwahanol a mwy amrywiol o gwmnïau uchel eu gwerth sy’n prysur dyfu ar draws ein holl sectorau allweddol, o dwristiaeth i weithgynhyrchu pen uchaf.
"Yn sgil cymorth gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a buddsoddiad o’r sector preifat, mae gennym brosiect a fydd yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r cyllid sydd ar gael er lles pobl Cymru. Rydym wedi sicrhau dros £6 am bob £1 y mae Llywodraeth Cymru wedi’i buddsoddi.
"Bydd y prosiect o fudd enfawr i’r degau ar filoedd o fusnesau lleol ar draws Cymru. Bydd yn helpu i sicrhau bod cwmnïau’n aros yng Nghymru a bydd hefyd yn denu math gwahanol a mwy amrywiol o gwmnïau uchel eu gwerth sy’n prysur dyfu ar draws ein holl sectorau allweddol."
Ychwanegodd Liv Garfield, prif weithredwr Openreach, sef busnes rhwydwaith lleol BT a fydd yn gweithredu’r seilwaith:
"Bydd y prosiect hwn yn helpu i sicrhau bod Cymru ar y blaen ym maes band eang. Rydym yn falch iawn o fod wedi llofnodi’r contract hwn â Llywodraeth Cymru ar gyfer gwireddu’r uchelgais. Cymru fydd un o’r gwledydd sydd â’r cysylltiad gorau yn y byd a bydd ar flaen y gad. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth ysbrydoledig iawn a bydd yn sicr yn dwyn ffrwyth o safbwynt twf yr economi. Bydd y prentisiaethau a’r profiad gwaith y byddwn yn eu cynnig yn sicrhau bod band eang y genhedlaeth nesaf yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr."
Dywedodd Andy Kerr, dirprwy ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu:
"Mae’n ardderchog gweld bod Llywodraeth Cymru a BT yn buddsoddi cymaint yn y prosiect hwn. Mae hefyd yn glod i sgiliau a phrofiad ein haelodau a fydd yn cyflawni gwasanaethau band eang lawer yn fwy cyflym ar draws Cymru. Yn sicr, bydd yn hwb i economi Cymru, bydd yn creu swyddi a bydd yn rhywbeth y gallwn oll ymfalchïo ynddo."











