Mewn llythyr at Lysgennad yr Unol Daleithiau yn y Deyrnas Unedig, Mr Louis B. Susman, pwysleisiodd y Prif Weinidog mor bwysig oedd y berthynas rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Pob dymuniad da ichi a’n cyfeillion yn America wrth ichi ddathlu’r 4ydd o Orffennaf, sy’n nodi digwyddiad mor allweddol yn hanes eich gwlad.
"Gellir olrhain y berthynas rhwng Cymru ac America yn ôl i adeg llofnodi’r Datganiad Annibyniaeth a thu hwnt. Yn wir, byddai rhai’n dweud bod y cyswllt yn dyddio’n ôl i’r adeg yr hwyliodd Madog drosodd i America.
"Mae Cymry Americanaidd wedi chwarae rhan ganolog yn natblygiad penodau llyfr hanes eich cenedl.
"Erbyn heddiw rydym yn gwerthfawrogi’r cysylltiadau busnes, y cysylltiadau addysgol a’r cysylltiadau diwylliannol rhwng y ddwy wlad. Mae ein cysylltiadau masnach yn amhrisiadwy, gan mai’r Unol Daleithiau yw marchnad allforio fwyaf Cymru.
"Mae yna fwy na 200 o fusnesau a mentrau o’r Unol Daleithiau yn gweithredu yma yng Nghymru ar hyn o bryd, fel y Wales Fulbright Summer Institute sy’n helpu arweinwyr ifanc y dyfodol i feithrin perthynas â Chymru. Caiff y myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun gyfle i ddysgu mwy am dreftadaeth aruchel Cymru a’n sefyllfa ni fel cenedl fodern yn y DU ac yn fyd-eang."Ar ran pobl Cymru, dymuniadau gorau ichi wrth ichi ddathlu Diwrnod Annibyniaeth."
Arweiniodd y Prif Weinidog daith fasnach i’r Unol Daleithiau ym mis Mai eleni, er mwyn ehangu’r cysylltiadau rhwng Cymru a’r wlad. Yn nes ymlaen eleni bydd Llywodraeth Cymru yn arwain teithiau masnach i Los Angeles, San Francisco, Boston, Washington a Chicago.











